Dirwy o £130,000 i bedwar o Sir Gâr am fridio cŵn yn anghyfreithlon

Llys Abertawe

Mae pedwar person o Sir Gâr wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £129,873.41 yn dilyn erlyniad gan Gyngor Sir Caerfyrddin am fridio cŵn yn anghyfreithlon.

Plediodd y diffynyddion Stacey May June Edwards, Peter John Edwards, Sian Eleri Thomas, a David Malcolm James Thomas, i gyd o Sea Breeze, Mynyddygarreg, Cydweli, yn euog i droseddau o dan Reoliadau Bridio Cŵn (Cymru) 2014 yn Llys y Goron Abertawe.

Rhoddodd y llys orchmynion atafaelu gwerth cyfanswm o £129,873.41 o dan y Ddeddf Enillion Troseddu (POCA) rhwng y pedwar diffynnydd.

Bydd yn rhaid iddynt hefyd dalu cyfanswm o £8,000 mewn costau ac mae bob un wedi derbyn dirwy o £2000.

Dechreuodd yr ymchwiliad ym mis Ebrill 2021 pan dderbyniodd tîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Caerfyrddin e-bost gan Peter Edwards yn gofyn am wybodaeth am wneud cais am drwydded bridio cŵn. 

Er iddynt gael y pecyn gwybodaeth trwyddedu llawn, a chyflwyno cais rhannol ym mis Chwefror 2022, tynnodd yr ymgeiswyr eu cais yn ôl yn ddiweddarach y flwyddyn honno.

Gwerthu heb drwydded

Ym mis Mawrth 2024, derbyniodd y Cyngor gŵyn bod cŵn bach yn cael eu hysbysebu i'w gwerthu heb y drwydded angenrheidiol. 

Cysylltodd swyddogion â llwyfannau hysbysebu a chyhoeddi ceisiadau data i gadarnhau graddfa'r gweithgaredd.

Datgelodd dadansoddiad o'r cofnodion hysbysebu gan Pets4Homes, Freeads, a Gumtree fod sawl torraid o gŵn bach yn cael eu hysbysebu gan y bridwyr.

Cadarnhaodd gohebiaeth gan y diffynyddion fod hyd at 25 o gŵn yn cael eu cadw yn yr eiddo, ac roedd rhwng 16 a 19 ohonyn nhw yn geist.

Hawliodd rhai diffynyddion gyd-berchnogaeth o'r cŵn, a gwadodd eraill eu rhan i raddau.

Daeth swyddogion y Cyngor o hyd i nifer o hysbysebion cŵn bach wedi'u postio rhwng Gorffennaf  2020 ac Ebrill  2025, oedd yn "dangos patrwm helaeth o weithgarwch bridio heb drwydded."

'Cwbl annerbyniol'

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin  Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

"Roedd graddfa'r gweithgaredd a ddatgelwyd yn yr eiddo hwn yn gwbl annerbyniol, ac rydyn ni'n croesawu penderfyniad y Llys i gyhoeddi gorchmynion atafaelu sylweddol o dan POCA.

"Mae'r achos hwn yn dangos safiad cadarn y Cyngor yn erbyn bridio cŵn yn anghyfreithlon a heb drwydded. Mae'r rheoliadau hyn ar waith i amddiffyn lles anifeiliaid a sicrhau bod gweithgareddau bridio yn destun goruchwyliaeth briodol. 

"Rydyn ni'n annog unrhyw un sydd â phryderon am fridio cŵn anghyfreithlon i roi gwybod i ni. Bydd ein swyddogion Iechyd Anifeiliaid yn parhau i ymchwilio'n drylwyr ac yn cymryd camau yn erbyn y rhai sy'n anwybyddu'r gyfraith."

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.