Nigel Farage yn galw'r Cymry yn siaradwyr iaith estron mewn fideo

Nigel Farage

Mae arweinydd Reform Nigel Farage wedi galw'r Cymry yn "siaradwyr (iaith) estron" mewn fideo y cafodd ei dalu i'w recordio. 

Fe wnaeth Mr Farage y sylwadau mewn fideo ar Cameo, platfform fideos wedi eu personoleiddio gan ffigyrau amlwg ar gyfer y cyhoedd, a hynny i ddathlu priodas.

Mae The Guardian wedi darganfod y fideo fel un o 4,000 sydd wedi eu gwneud gan Mr Farage ar y platfform, sy'n galluogi ffigyrau cyhoeddus ac enwogion i werthu negeseuon wedi eu recordio i aelodau o'r cyhoedd. 

Mae sylwad Nigel Farage am y Cymry yn rhan o fideo a gafodd ei ffilmio ganddo ym mis Gorffennaf 2025, ac fe gododd ffi o £106 amdano. 

Fe wnaeth y defnyddiwr Cameo ofyn iddo recordio neges briodas ar gyfer "Toby a Sam" ac i ddilyn sgript oedd yn dweud: "Roeddwn i wir eisiau dod, ond pan y clywais i fod hanner y gwesteion yn Gymry, meddyliais: "Mae hynny yn llawer gormod o dramorwyr i mi."

Mae fideo arall a gafodd ei chynhyrchu gan Mr Farage ym mis Mawrth 2021 yn codi cwestiynau am daliadau cyffredinol i ffigyrau cyhoeddus, gan gynnwys gwleidyddion.

Fe ddywedodd y defnyddiwr a gomisiynodd y fideo iddo recordio neges ben-blwydd i rywun oedd "ddim yn hoffi Sgowsars na Chymry.

Fe dderbyniodd Mr Farage y comisiwn am ffilmio'r neges, gan godi ffi o £75. 

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Farage: "Mae Cameo yn neges fer sydd wedi ei phersonoleiddio mewn cais gan aelodau'r cyhoedd ac ni ddylai gael ei thrin fel datganiad gwleidyddol neu weithgaredd ymgyrchu."

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae dirmyg Farage at bobl Cymru a’r iaith Gymraeg mor glir. Mae’n defnyddio etholiad mis Mai fel carreg gamu i San Steffan ac mae’n sathru dros Senedd Cymru, yr iaith Gymraeg a phobl Cymru i gyrraedd yno."

Ychwanegodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Jane Dodds: "Cymraeg yw'r iaith fyw hynaf yn y Deyrnas Unedig. Nid yw hi'n 'iaith dramor', mae'n rhan sylfaenol o hanes a hunaniaeth yr ynysoedd hyn, nid Cymru yn unig."

Nid dyma'r tro cyntaf i ddefnydd Mr Farage o'r platfform fod yn bwnc llosg wedi iddo gael ei dwyllo i recordio fideo lle defnyddiodd ymadroddion cenedlaetholgar Gwyddeleg yn 2021 cyn iddo ddod yn arweinydd Reform UK.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.