Mynd i gêm bêl-droed heb docyn yn anghyfreithlon o hyn allan

Yr Eidal Euro 2020.png

Fe fydd mynd i gêm bêl-droed heb docyn yn anghyfreithlon o'r penwythnos nesaf ymlaen yng Nghymru a Lloegr. 

Fe fydd troseddwyr yn wynebu gorchymyn gwaharddiad pêl-droed pum mlynedd yn ogystal â dirwy o £1,000.

Fe wnaeth adolygiad ganfod fod bywydau wedi cael eu rhoi yn y fantol pan y gwnaeth cefnogwyr dorri i fewn i Stadiwm Wembley yn Llundain yn rownd derfynol Euro 2020. 

Dywedodd Ysgrifennydd Plismona Llywodraeth y DU, Sarah Jones: "Mae hwn yn ddarn newydd o ddeddfwriaeth ac wrth gwrs, mae'r heddlu’n cynllunio sut i’w weithredu."

Mae'n rhoi "mwy o bwerau" i swyddogion er mwyn "atal ac yna ymateb i bobl sydd yn amharchu cefnogwyr sydd yn talu i wylio gêm" yn ôl yr Ysgrifennydd Plismona.

Doedd yna ddim cosb gyfreithlon benodol yn flaenorol ar gyfer mynychu gêm bêl-droed heb docyn. 

Tocyn ffug

Fe fydd Deddf Mynediad Heb Ganiatâd i Gemau Pêl-droed hefyd yn ei gwneud yn anghyfreithlon i geisio mynd i gêm gyda thocynnau ffug, pasys a dogfennau achredu yn fwriadol.

Daw hyn wedi adolygiad annibynnol o rownd derfynol Pencampwriaeth Euro 2020 a gafodd ei chynnal yn Wembley ar 11 Gorffennaf 2021. 

Fe wnaeth y Farwnes Casey nodi mwy na 20 o "fethiannau a wnaeth bron â digwydd" a allai fod wedi arwain at anaf difrifol neu farwolaeth o ganlyniad i unigolion heb docynnau yn ceisio cael mynediad i'r gêm rhwng Lloegr a'r Eidal. 

Fe wnaeth tua 100,000 o bobl deithio i Wembley ar gyfer y rownd derfynol, gyda tua 2,000 o'r rhain yn llwyddo i gael mynediad i'r stadiwm heb docynnau. 

Daw'r deddfau newydd hefyd wedi problemau gan gefnogwyr Lerpwl yn ystod rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Real Madrid ym Mharis yn 2022. 

Bu oedi o 36 munud cyn i’r chwarae ddechrau wrth i filoedd o gefnogwyr Lerpwl fethu â chael mynediad i'r stadiwm, gyda rhai wedi cwyno fod yr heddlu wedi defnyddio nwy dagrau arnyn nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.