Pum achos newydd o lid yr ymennydd yng Nghaint
Mae pum achos newydd o lid yr ymennydd wedi cael eu cadarnhau yng Nghaint yn ne Lloegr, gan ddod â nifer yr achosion i 20, yn ôl Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU.
Mae Prifysgol Caint wedi dechrau cyflwyno brechlynnau meningitis B i tua 5,000 o fyfyrwyr sy'n byw ar y campws yng Nghaergaint ac yn parhau i gynnig miloedd o ddosau o wrthfiotigau i fyfyrwyr a staff.
Daw hyn ar ôl i ddau fyfyriwr farw ar ôl achos o lid yr ymennydd yn gysylltiedig â Club Chemistry yng Nghaergaint rhwng 5 a 7 Mawrth.
Nid yw'n glir sut y bydd myfyrwyr sydd eisoes wedi gadael y campws ac wedi mynd adref i rannau eraill o'r wlad yn cael mynediad at frechlyn.
Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU: "Mae hon yn sefyllfa sy’n newid yn gyflym ac efallai y bydd achosion pellach wrth i’r rhai sydd â symptomau gael eu hannog i geisio cyngor meddygol.
"Gwrthfiotigau yw’r driniaeth fwyaf effeithiol o hyd i gyfyngu ar ledaeniad clefyd meningococcal ymledol.
"Hyd yn hyn, mae dros 2,500 o ddosau wedi’u rhoi i fyfyrwyr, cysylltiadau agos ac eraill, gan gynnwys rhai o’r rhai a fynychodd Club Chemistry.
"Rydym yn cynghori meddygon teulu ledled y wlad heddiw i roi gwrthfiotigau i unrhyw un a ymwelodd â Club Chemistry rhwng Mawrth 5-7 ac i fyfyrwyr Prifysgol Caint, os ydyn nhw wedi cael cais i gael triniaeth ataliol.
"Mae hyn fel y gall unrhyw un sydd wedi teithio adref, neu i ffwrdd o Gaint, gael mynediad hawdd at y driniaeth ataliol bwysig hon yn agos atynt."
'Achos digynsail'
Ddydd Mawrth, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Wes Streeting, ei fod yn “achos digynsail”.
“Mae mwyafrif yr achosion yn gysylltiedig â chlwb nos Club Chemistry dros ddyddiau’r pumed, chweched a seithfed o Fawrth, a’r rhwydweithiau cysylltiedig. Mae Club Chemistry bellach ar gau yn wirfoddol,” meddai.
Ddydd Sul, fe wnaeth Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU gyhoeddi ei fod yn ddigwyddiad cenedlaethol er mwyn sicrhau bod digon o wrthfiotigau ar gael.
Ond wrth siarad gyda'r BBC fore Mercher, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd nad yw'r hyn sydd wedi digwydd yn rhoi straen a phwysau ar y gwasanaeth iechyd fel digwyddodd gyda Covid-19. Yr ymateb i'r achosion sydd yn cael ei "reoli'n genedlaethol" meddai.
Ychwanegodd bod y risg yn "isel iawn" ond ei fod yn disgwyl gweld achosion eraill mewn rhannau eraill o Loegr. Ond dywedodd hefyd nad oedd yn pryderu y byddai'r achosion yn lledaenu yn ddaearyddol.
Mae rhaglen frechu benodol wedi ei sefydlu ar gyfer y rhai sydd yn byw mewn neuaddau preswyl ar gampws Caergaint, ym Mhrifysgol Caint sydd yn cychwyn ddydd Mercher.
Dywedodd yr asiantaeth bod dau o'r achosion newydd yn rhai llid yr ymennydd math B, gan ddod â'r cyfanswm o'r achosion math B i chwech.
Nid yw mwyafrif y bobl ifanc gafodd eu geni cyn 2015 wedi eu brechu ar gyfer y math yma o lid yr ymennydd.
Cafodd brechiadau eu cyflwyno ar y gwasanaeth iechyd yn 2015.
Llun: Gareth Fuller/PA