America wedi defnyddio ei bomiau cryfaf ar hyd Culfor Hormuz
Mae America yn dweud ei bod wedi defnyddio ei bomiau mwyaf pwerus ar safleoedd taflegrau Iran sydd ar hyd Culfor Hormuz.
Mae Iran wedi cau'r culfor yn sgil y rhyfel rhwng y wlad ac America ac Israel. Culfor Hormuz yw un o brif lwybrau masnach strategol y byd ac mae'n hanfodol i ddosbarthu olew.
Yn ystod y dyddiau diwethaf mae arlywydd yr UDA, Donald Trump wedi galw ar gynghreiriaid America i ddiogelu'r culfor.
Ers y rhyfel rhwng Iran ac Israel ac America mae prisiau olew wedi codi 80%.
Yn y cyfamser mae pennaeth byddin Iran wedi dweud y bydd yna "ymateb pendant" ar ôl i bennaeth amddiffyn y wlad, Ali Larijani gael ei ladd mewn ymosodiad awyr gan Israel ddydd Llun.
Dywedodd Amir Hatami: "Ar yr adeg a'r lle priodol, fe fydd yna ymateb pendant i'r Americanwyr troseddol a'r gyfundrefn Seionistaidd sydd yn ysu am waed fydd yn rhwystro rhywbeth fel hyn rhag digwydd eto."
Mae Israel wedi lansio cyfres o ymosodiadau ar brif ddinas Libanus ac wedi gorchymyn bod pobl y wlad sydd yn byw yn y de yn gadael yr ardal.