Kieffer Moore i fethu gemau ail-gyfle Cwpan y Byd oherwydd anaf
Ni fydd yr ymosodwr Kieffer Moore yn cymryd rhan yn gemau ail-gyfle Cymru ar gyfer Cwpan y Byd fis yma ar ôl dioddef anaf.
Fe wnaeth y chwaraewr 33 oed ddioddef anaf i’w linyn y gar ('hamstring') yn chwarae i Wrecsam yn erbyn Chelsea yng Nghwpan FA Lloegr fis yma.
Mae’r clwb wedi dweud nad oes disgwyl i Moore ddychwelyd i’r maes tan fis Ebrill.
Mae hynny’n golygu y byddai’n methu gêm Cymru yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle, yn erbyn Bosnia a Herzegovina ar 26 Mawrth, yn ogystal â'r rownd derfynol ar 31 Mawrth, os yw Cymru’n fuddugol.
Os yw Cymru’n ennill y ddwy gêm, fe fyddan nhw’n sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd FIFA eleni, sy’n cael ei chynnal yn America, Canada a Mecsico.
Fe fydd enillydd y gemau ail-gyfle yn ymuno â Chanada, y Swistir a Qatar yng Ngrŵp B, gan chwarae gemau yn Vancouver, Los Angeles a Seattle.
Fe fydd rheolwr Cymru, Craig Bellamy yn enwi ei garfan ar gyfer y gemau ail-gyfle am 10.30 ddydd Mawrth.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru