Abba yn cyhoeddi albwm newydd wedi 39 mlynedd

The Telegraph

Mae'r band enwog, Abba, wedi cyhoeddi eu halbwm cyntaf mewn 39 mlynedd. 

Yn ôl The Telegraph, fe wnaeth y band o Sweden hefyd gyhoeddi eu bod nhw'n bwriadu cynnal perfformiad fydd yn dangos fersiwn digidol o'r aelodau. 

Fe fydd yr albwm a'r prosiect yn cael eu henwi'n 'Abba Voyage' ac yn cynnwys gwaith gan y pedwar - Bjorn Ulvaeus, Agnetha Faltskog, Benny Andersson ac Anni-Frid Lyngstad. 

Yn ogystal, mae'r band wedi cyhoeddi dwy gân o'r albwm ddydd Iau.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Llun: AVRO