Dod o hyd i gorff mewn bin olwyn mewn parc
Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod mewn bin olwyn mewn parc yn ninas Coventry yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, meddai’r heddlu.
Daeth aelod o’r cyhoedd o hyd i gorff y dyn, sydd heb ei adnabod eto, ym Mharc Cash oddi ar Daimler Road tua 17.00 ddydd Gwener, 13 Mawrth.
Roedd y corff mewn bin olwyn Cyngor Dinas Coventry gyda chaead gwyrdd. Y gred yw ei fod rhwng 40 a 50 oed.
Mae Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn credu y gallai’r dyn fod wedi cael ei daro gan gerbyd cyn cael ei symud i mewn i’r parc.
Mae swyddogion yn gweithio gyda’r cyngor i gael gwybod o ble y cafodd y bin ei symud.
Dywedodd y Prif Arolygydd Ditectif Phil Poole: “Rydyn ni’n cadw meddwl agored, ond rydyn ni’n credu bod y dyn hwn wedi cael ei daro gan gerbyd ac yna wedi cael ei symud i’r parc.
“Dw i eisiau clywed ar frys gan unrhyw un sy’n credu y gallai fod wedi taro rhywun gyda’i gar ddoe, neu sydd wedi sylwi ar newid yn ymddygiad gyrrwr y maen nhw’n ei adnabod, neu sydd wedi sylwi ar ddifrod i gerbyd.
“Mae’n hollbwysig ein bod ni’n dod o hyd i’r person hwnnw cyn gynted â phosibl er mwyn i ni ddeall beth ddigwyddodd.
“Os oes unrhyw un yn yr ardal wedi sylwi bod eu bin olwyn gyda chaead gwyrdd wedi cael ei ddwyn, dw i hefyd eisiau clywed ganddyn nhw.”
