Grant gan Lywodraeth Cymru i Ysgol Gymraeg Llundain
Grant gan Lywodraeth Cymru i Ysgol Gymraeg Llundain
Un o sefydliadau Cymreig mwyaf amlwg Llundain.
Ers 1958 mae Ysgol Gymraeg Llundain wedi bod yn darparu addysg Gymraeg i blant ym mhrifddinas Lloegr.
Ond dros y blynyddoedd diwetha, mae 'na bryder wedi bod am ddyfodol yr ysgol, wrth i nifer y disgyblion ostwng ar ol Covid-19.
"Cafodd Covid effaith ar yr ysgol.
"Mae'r effaith yma wedi amlygu ei hun oherwydd does gennym ni ddim plant ym mlynyddoedd 4, 5 a 6 sef plant wyth oed i fyny.
"Ond y newyddion da ydy bod yr ysgol yn tyfu o'r gwaelod.
"Mae gennym ni 21 o fabanod a phlant bach ym Miri Mawr sef y grwp i rieni a'u plant.
"Y gobaith ydy y bydd y mwyafrif o'r rheiny'n symud i fyny'r ysgol."
Mae costau i gynnal yr ysgol wedi cynyddu ac angen arian i ddatblygu'r safle a'r ddarpariaeth tu fas.
Yr adeg yma'r llynedd roedd yr ysgol yn wynebu diffyg ariannol £2,500 y mis sef £30,000 y flwyddyn.
Felly, mae'r newyddion gan Lywodraeth Cymru heddiw y byddan nhw'n darparu £91,000 y flwyddyn dros y 3 blynedd nesa yn sicr yn cael ei groesawu.
"Bydd dathlu i ddod a bydd rhaid cael parti.
"Mae gymaint o bobl 'di helpu. Mae cymuned Cymry Llundain 'di bod yn rhan enfawr o helpu ni.
"Mae gymaint o bobl i ddiolch. Heb yr arian, byddai'r ysgol ddim wedi gallu parhau.
"Byddai wedi gorfod cau.
"Mae'r arian yn hollbwysig yn cadw'r ysgol i fynd."
Mae 'na amodau ynghlwm a'r arian gan gynnwys cynyddu nifer y disgyblion.
Ar hyn o bryd mae 'na 12 o blant yn yr ysgol yn Hanwell yng ngorllewin Llundain a 15 o deuluoedd ac 20 o fabanod a phlant bach yn y cylch Miri Mawr.
"Dw i'n hoffi dod i'r ysgol oherwydd mae gen i lot o ffrindiau.
"Ni'n chwarae lot o gemau."
"Dw i'n hoffi dod i'r ysgol oherwydd dw i'n hoffi ffrindiau fi.
"Dw i'n hoffi play time."
Y gobaith yma yw bod y cyhoeddiad heddi yn diogelu'r ysgol i'r dyfodol, ac yn sicrhau y bydd rhagor o blant yn Llundain yn cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
