Heddlu'n ymchwilio i ymosodiad honedig ar ochr ffordd brysur yn Sir Gâr
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ymosodiad honedig ar ffordd yr A48 rhwng Llanddarog a Nantycaws yn Sir Gaerfyrddin brynhawn Sadwrn diwethaf.
Mae honiadau fod wyth dyn a oedd wedi parcio eu beiciau modur Harley Davidson mewn cilfan wedi ymosod ar ddyn mewn car.
Cafodd plismyn eu galw i ochr orllewinol y ffordd tua 14:30.
Yn ôl yr heddlu, cafodd y dioddefwr anafiadau, ac roedd difrod i'r cerbyd.
Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth yn cael eu hannog i gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys
