Tri dyn yn dwyn achos sifil yn erbyn Gerry Adams
Mae achos sifil sy’n cael ei ddwyn gan dri o ddioddefwyr bomiau’r IRA yn erbyn Gerry Adams wedi agor yn yr Uchel Lys.
Mae John Clark, dioddefwr bomio'r Old Bailey yn Llundain ym 1973, Jonathan Ganesh, dioddefwr bomio Dociau Llundain ym 1996, a Barry Laycock, dioddefwr bom canolfan siopa Arndale ym Manceinion ym 1996, i gyd yn honni bod Mr Adams yn aelod blaenllaw o'r IRA ar y dyddiadau hynny, gan gynnwys bod yn aelod ar Gyngor Byddin yr IRA.
Mae'r tri yn dwyn achos cyfreithiol yn erbyn cyn-lywydd Sinn Fein ac yn ceisio am £1 mewn iawndal.
Maent yn honni bod Mr Adams wedi "gweithredu ynghyd ag eraill i hyrwyddo cynllun cyffredin i fomio tir mawr Prydain" ac yn "gyfrifol yn uniongyrchol" mewn amrywiol o swyddi o fewn yr IRA am benderfyniadau a wnaed i osod dyfeisiau ym 1973 a 1996.
Mae Mr Adams yn gwadu bod ganddo unrhyw ran yn yr IRA ac mae'n gwrthwynebu'r honiad.
Dywedodd cyfreithwyr y tri dioddefwr mewn gwrandawiad blaenorol y dylid ystyried Mr Adams yn gynrychiolydd o ddosbarth o bobl a oedd “yn aelodau o’r IRA/ei Chyngor Byddin rhwng 1973 a 1996”.
Roedd y dynion hefyd eisiau siwio’r IRA ond dywedodd Mr Ustus Soole fod yn rhaid dileu’r hawliad hwnnw oherwydd “nad yw’n endid cyfreithiol”.
Bydd dau o’r tystion sydd i fod i roi tystiolaeth yn erbyn Mr Adams yn ddienw a byddant yn siarad yn yr achos o’r tu ôl i sgrin.
Dywedodd Anne Studd KC, ar ran y tri dyn, mewn gwrandawiad y mis diwethaf fod un o’r tystion yn credu bod “yr IRA neu bobl sy’n gysylltiedig ag o yn dal i fodoli” a byddai mewn perygl o ganlyniad.
Dywedodd: “Mae’n debygol iawn y bydd yr achos hwn yn cynyddu diddordeb eto yn y materion hyn ac mae’r tyst hwn, gyda’i brofiad yn y gorffennol, yn poeni am hynny.”
Gwnaeth gais hefyd i gynnwys mwy o dystion fyddai'n gallu rhoi tystiolaeth, ac fe ganiataodd Mr Ustus Swift hynny.
