Mared Griffiths yn sgorio ddwywaith wrth i Gymru guro Montenegro 6-1
Mae Cymru wedi sicrhau buddugoliaeth rwydd 6-1 yn erbyn Montenegro yn Llanelli yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2027, gyda Mared Griffiths yn sgorio ddwywaith.
Fe wnaeth Cymru sicrhau gêm gyfartal yng ngêm gyntaf yr ymgyrch yn erbyn y Weriniaeth Tsiec nos Fawrth.
Fe wnaeth y prif hyfforddwr Rhian Wilkinson bedwar newid i'r gêm honno, gyda'r ferch o Drawsfynydd Mared Griffiths a Mia Ross yn dechrau am y tro cyntaf.
Roedd Carrie Jones a Safia Middleton-Patel hefyd yn dechrau.
Roedd Cymru ar y blaen o 5-0 ar ddiwedd yr hanner cyntaf, gyda goliau gan Hannah Cain, Rachel Rowe, Mared Griffiths a Sophie Ingle.
Cafodd Montenegro un gôl yn ôl ar ddechrau'r ail hanner, gydag Armisa Kuc yn sgorio i'r gwrthwynebwyr.
Llwyddodd Montenegro i ddal eu tir a rhwystro Cymru rhag sgorio eto wrth i'r ail hanner fynd yn ei flaen, gan adael tîm Rhian Wilkinson yn rhwystredig ar adegau.
Ond fe lwyddodd Mared Griffiths i sgorio unwaith eto i Gymru wedi 78 munud, gan olygu mai 6-1 i Gymru oedd hi ar ddiwedd y gêm.
Mae'r chwe gêm yn yr ymgyrch, sef tair gêm gartref a thair oddi cartref, yn cael eu chwarae ym misoedd Mawrth, Ebrill a Mehefin.
Ymunodd Jess Fishlock â thim hyfforddi Cymru ar gyfer y gêm agoriadol.
Fe wnaeth prif sgoriwr Cymru ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ym mis Hydref, ond mae'n parhau i chwarae i dîm Seattle Reign yn America.
Mae timau Ewrop wedi eu gwahanu i mewn i dair cynghrair, A, B a C, gyda hyd at 12 tîm yn gallu cyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth.
Fe fydd enillwyr y pedwar grŵp yng Nghynghrair A yn sicrhau eu lle yn awtomatig ar gyfer Cwpan y Byd Brasil 2027, ond fe fydd yn rhaid i’r gweddill o’r timau barhau i frwydro am le drwy’r gemau ail gyfle.
Yn rhan o Gynghrair B, fe fydd Cymru yn ceisio ennill eu lle ar frig eu grŵp, sef B1, er mwyn sicrhau llwybr mwy ffafriol yn y gemau ail gyfle.
Fe fydd yna ddwy rownd o gemau ail gyfle, gyda saith tîm yn hawlio eu lle ym Mrasil yn y pen draw, tra bod yna gyfle i wythfed tîm gymhwyso drwy gêm ail gyfle yn erbyn gwlad o gyfandir gwahanol.