Carcharu dyn o Gorwen am geisio treisio merch o dan 13 oed
Mae dyn o Sir Ddinbych a gafwyd yn euog o geisio treisio merch o dan 13 oed wedi cael ei garcharu am 11 o flynyddoedd.
Roedd gan Ryan Linden Williams, 37 oed, o Hendre, Corwen, drosedd rywiol flaenorol ar ei record.
Fe fydd yn rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am oes ac fe fydd yn destun gorchymyn atal niwed rhywiol am 25 mlynedd.
Mae Williams hefyd yn wynebu cyfnod estynedig o bedair blynedd ar drwydded hefyd.
Dywedodd Myles Wilson oedd yn amddiffyn ei gleient yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, fod gan Williams "ethos gwaith cryf" ac "ochr ofalgar" i'w bersonoliaeth.
“Mae’n parhau i wadu’r drosedd hon,” ychwanegodd y cyfreithiwr.
Dywedodd y Barnwr Timothy Petts fod yr ochr i’w gymeriad yr oedd yn rhaid iddo ddelio â hi yn “bryderus iawn yn wir.”
Ychwanegodd y barnwr: “Dim ond dedfryd o garchar ar unwaith fydd yn gwneud y tro.”