Jonny Clayton 'mor gyffrous' i chwarae dartiau am y tro cyntaf ers tair blynedd yng Nghaerdydd
Mae'r Cymro Jonny Clayton yn dweud ei fod "mor gyffrous" i chwarae dartiau yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers tair blynedd.
Nos Iau fe fydd Uwch Gynghrair y Dartiau yn dod i Gaerdydd, gyda'r ddau Gymro, Jonny Clayton a Gerwyn Price yn cystadlu eleni.
Clayton sydd ar frig y gynghrair ar hyn o bryd, gyda Price yn y pedwerydd safle allan o wyth.
Wrth siarad cyn y gystadleuaeth, dywedodd Clayton, sydd heb chwarae yn yr Uwch Gynghrair ers 2023 ei fod "mor gyffrous" i chwarae yn y brifddinas.
"Dwi wedi bod yn aros tair blynedd am hwn, dwi mor gyffrous," meddai.
"Byddai dau foi o Gymru yn y ffeinal yn wych - ac yn amlwg fi'n ennill y tlws bach yn well.
"Gobeithio bod hynny'n digwydd, croesi bysedd bydd y ddau ohonom yn cwrdd yn y ffeinal."
Bydd Jonny Clayton yn wynebu Gian van Veen o'r Iseldiroedd yn y rownd gyn-derfynol, sydd yn ail yn y gynghrair ar hyn o bryd.
Fe fydd Gerwyn Price yn wynebu Stephen Bunting o Loegr, sydd un safle yn is na'r Cymro.
Hon yw'r unig noson o ddartiau sydd yn cael ei chwarae yng Nghymru yn y calendr dartiau, gyda phob cystadleuaeth arall naill ai yn Lloegr neu yn Ewrop.
Oherwydd hynny mae'r gefnogaeth i Clayton a Price yn "ffantastig" meddai Clayton.
"Does dim cefnogaeth well na gan y Cymry," meddai.
"Un prif gystadleuaeth sydd yng Nghymru, a'r noson Uwch Gynghrair yw hwnnw, ac i fod yn rhan o hynny o gwmpas torf Gymreig yn ffantastig."
"Dwi a Gerwyn yn edrych ymlaen i hyn, fe fydd yn oson wallgof, cyffrous llawn canu ac fe fydd y dorf y tu ôl i ni."