Dryswch o hyd ynglŷn â phwerau'r Senedd - arolwg

Blwch pleidleisio

Mae dal llawer o ddryswch ynglŷn â beth mae’r Senedd yn gyfrifol amdano, dros chwarter canrif ers dechrau’r datganoli, yn ôl arolwg newydd.

Mae arolwg gan Brifysgol Caerdydd a YouGov yn awgrymu nad yw pleidleiswyr yn gwybod pa bwerau sydd gan Senedd y DU yn San Steffan, y Senedd a chynghorau lleol.

Roedd 45% yn meddwl mai'r Senedd oedd yn gyfrifol am blismona, gyda dim ond 31% yn nodi’n gywir mai San Steffan sy’n dal y pŵer hwn.

Roedd y mwyafrif (58%) naill ai’n anghywir neu ddim yn gwybod pwy oedd yn goruchwylio darlledu, gyda dim ond 42% yn dweud yn gywir mai San Steffan sy’n gyfrifol.

Roedd 56% hefyd yn tybio mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am ddarpariaeth gofal cymdeithasol, a 8% yn dweud mai San Steffan.
Dim ond 19% a ddywedodd yn gywir mai’r cynghorau lleol sy’n gyfrifol.

Roedd y mwyafrif yn gywir ynglŷn â mewnfudo (71%), addysg (70%), iechyd (69%) a thrafnidiaeth (65%), ond roedd lleiafrif sylweddol (rhwng 29% a 35%) yn anghywir neu ddim yn gwybod.

Fe gafodd atebwyr drafferth hefyd i adnabod arweinwyr pleidiau yng Nghymru, gyda dim ond 10% yn adnabod arweinydd Reform, Dan Thomas, 18% yn adnabod Jane Dodds o’r Democratiaid Rhyddfrydol, a 4% yn adnabod Anthony Slaughter o’r Blaid Werdd.

Pan ofynnwyd am y system bleidleisio a fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer etholiad y Senedd ym mis Mai 2026, dim ond 7% a nododd yn gywir mai’r system rhestr gaeedig newydd fydd yn cael ei defnyddio.

Roedd 18% yn credu mai’r system Gyntaf i’r Felin fyddai hi, 13% yn meddwl y byddai’n defnyddio’r System Aelodau Ychwanegol, 4% yn dewis y Bleidlais Drosglwyddadwy Sengl, a mwyafrif (58%) yn dweud nad oeddent yn gwybod.

'Gwybodus'

Yr Athro Stephen Cushion o Brifysgol Caerdydd oedd yn arwain yr ymchwil.

“Cyn etholiad y Senedd ym mis Mai, mae ein canfyddiadau’n dangos rôl bwysig cyfryngau newyddion ledled y DU wrth helpu i nodi a yw mater polisi yn dod o dan gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU,” meddai’r Athro Cushion.

“Datgelodd yr arolwg fod niferoedd mawr o bleidleiswyr yn parhau’n ansicr pwy sy’n rheoli meysydd allweddol o bolisi cyhoeddus, a bod llawer yn dibynnu ar newyddion ar draws y DU nad yw’n nodi’n rheolaidd a yw stori’n berthnasol i Loegr, yr Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon.

“Yn ystod ymgyrchoedd etholiad datganoledig, bydd eglurder wrth adrodd yn hanfodol, gan y bydd pleidleiswyr yng Nghymru’n dibynnu’n drwm ar newyddion darlledu, ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n cael eu cynhyrchu ledled y DU i wneud synnwyr o’r addewidion a wneir gan bleidiau gwleidyddol, a’u deall.

“Bydd sicrhau bod straeon newyddion yn labelu pwerau datganoledig a phwerau a gedwir yn ôl yn gywir yn helpu’r cyhoedd i ddeall a gwneud penderfyniad gwybodus am sut y caiff Cymru ei llywodraethu yn y blynyddoedd i ddod.”

Fe gafodd 1,544 o oedolion dros 16 oed yng Nghymru eu holi gan YouGov rhwng 12-25 Chwefror 2026.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.