Arestio dau ddyn yng Nghymru ar amheuaeth o ysbïo dros Tsieina
Mae dau ddyn wedi eu harestio yng Nghymru ar amheuaeth o ysbïo ar ran Tsieina.
Dywedodd Heddlu'r Met fod dyn 68 oed ym Mhowys a dyn 43 oed ym Mhontyclun wedi eu harestio.
Maen nhw hefyd wedi arestio dyn 39 oed mewn cyfeiriad yn Llundain.
Fe gafodd y tri dyn eu harestio ddydd Mercher ar amheuaeth o gynorthwyo gwasanaeth cuddwybodaeth o dramor, yn groes i adran 3 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol, 2023.
Dywedodd Heddlu'r Met mai Tsieina yw'r wlad y mae'r ymchwiliad yn ymwneud â hi.
Dywedodd Pennaeth Plismona Gwrthderfysgaeth Llundain Helen Flanagan: "Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn ein gwaith yn ymwneud â diogelwch cenedlaethol dros y blynyddoedd diweddar, ac rydym yn parhau i weithio yn agos iawn â'n partneriaid i gadw ein gwlad yn ddiogel.
"Mae'r datblygiad heddiw yn rhan o ymchwiliad rhagweithiol ac er fod rhain yn faterion difrifol, nid ydym ni'n credu bod bygythiad uniongyrchol i'r cyhoedd yn ymwneud â hyn."
Ychwanegodd y llu fod y tri yn parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Mae swyddogion heddlu yn parhau i chwilio yn y cyfeiriadau ble y cafodd y tri eu harestio.
Fel rhan o'rymchwiliad, mae swyddogion hefyd wedi bod yn chwilio mewn cyfeiriadau eraill hefyd, gan gynnwys yng Nghaerdydd, Llundain a Dwyrain Kilbride.
Mae ymholiadau yn parhau yn ôl y llu.
