‘Pryder’ am ddyfodol Gwesty Parc y Strade ymysg adroddiadau y bydd yn cau
Mae cynghorydd yn Llanelli wedi dweud ei fod yn “pryderu’n fawr” am ddyfodol Gwesty Parc y Strade ymysg adroddiadau y bydd yn cau.
Does dim modd archebu ystafell ar wefan y gwesty ar hyn o bryd. Nid yw perchnogion y gwesty wedi cadarnhau ei ddyfodol eto.
Roedd defnydd y gwesty yn destun dadlau sylweddol yn 2023 oherwydd cynlluniau i osod cannoedd o geiswyr lloches yno.
Fe ddaeth cynlluniau'r Swyddfa Gartref i roi lloches i 241 o bobl yng Ngwesty Parc y Strade i ben yn dilyn misoedd o brotestiadau a gwrthwynebiad gan gyngor Sir Caerfyrddin.
Fe gafodd nifer o bobl eu harestio yn sgil y protestiadau, gyda'r gwaith plismona yn costio mwy na £1m i Heddlu Dyfed-Powys.
Daeth cadarnhad ym mis Mai 2024 y byddai'r gwesty yn ail-agor.
Dywedodd y cynghorydd annibynnol Steven Williams, a enillodd isetholiad ar ôl ymgyrchu yn erbyn newid defnydd y gwesty, bod y newyddion y gallai gau yn peri “pryder mawr” iddo.
Dywedodd ei fod wedi siarad ag aelodau o staff “ac nad oes llawer o sicrwydd wedi ei roi iddyn nhw beth sy’n digwydd nesaf”.
“Maen nhw’n bobl leol sy’n gweithio yn galed ac sydd wedi ailadeiladu enw da’r gwest,” meddai.
“Unwaith eto, mae staff yn wynebu colli eu swyddi heb fod unrhyw fai arnyn nhw eu hunain.
“Fy mhrif flaenoriaeth yw’r gweithlu a’u teuluoedd. Ar hyn o bryd mae llawer o gwestiynau a phobl bryderus. Mae Llanelli yn haeddu atebion - a gweithredu.”
Dywedodd gwasanaeth newyddion WalesOnline bod aelod o staff y gwesty wedi rhoi gwybod ei fod wedi “rhoi’r gorau i fasnachu”.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda’r gwesty a’i berchnogion am ymateb.