Ysgol ym Mhowys ar gau ddydd Mawrth ar ôl bygythiad

Ysgol Maesydderwen, Ystradgynlais

Bydd ysgol ym Mhowys ar gau ddydd Mawrth tra bod yr heddlu’n ymchwilio i fygythiad dros y ffôn.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys y bydd swyddogion ar safle Ysgol Maesydderwen yn Ystradgynlais drwy’r dydd tra byddan nhw’n ymchwilio.

Bydd rhieni a gofalwyr yn parhau i gael diweddariadau drwy’r dydd ynglŷn â phryd fydd yr ysgol yn ailagor, medden nhw.

Roedd yr ysgol dan glo am gyfnod ddydd Llun ar gais yr heddlu ar ôl derbyn y bygythiad dros y ffôn.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys iddyn nhw gael galwad am 10.45 fore Llun i Ysgol Maesydderwen yn Ystradgynlais ar ôl y bygythiad.

Cadarnhaodd y llu bryd hynny nad oedd neb wedi’i anafu yn yr ysgol, a bod disgyblion ac athrawon yn ddiogel ac yn aros ar y safle am y tro.

“Mae'r heddlu'n parhau ar y safle tra bod yr ymchwiliad i'r bygythiad dros y ffôn yn parhau, ond nid oes unrhyw arestiadau wedi'u gwneud ar hyn o bryd,” meddai’r heddlu brynhawn Llun.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys ddydd Llun: “Gallwn gadarnhau bod Ysgol Maesydderwen wedi mynd dan glo yn llawn y bore yma fel rhagofal ar ôl gwybodaeth mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio iddo.

“Mae’r holl ddisgyblion a staff yn ddiogel ac mae’r heddlu ar y safle.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.