Ymchwiliad i lofruddiaeth wedi digwyddiad ym Mhencoed
Cyhoeddodd yr heddlu eu bod bellach yn cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth wedi digwyddiad difrifol ym Mhencoed ger Pen-y-bont yn ystod oriau mân fore Sadwrn.
Cadarnhaodd Heddlu De Cymru fod dyn 58 oed a oedd mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi marw ddydd Llun.
Mae ei deulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol, yn ôl y llu.
Mae dyn 26 oed a gafodd ei arestio yn dal i fod yn y ddalfa.
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un a oedd yn ardal Ffordd Felindre, Pencoed, rhwng hanner nos a 0500 fore Sadwrn i gysylltu â nhw.
Mae bobol oedd yn gyrru yn yr ardal yn cael eu hannog i wirio eu teclynnau dashcam.
Mae ditectifs yn awyddus i siarad â dau dyst posibl, sef dau berson oedrannus. Y gred yw eu bod yn cerdded ar hyd Ffordd Felindre rhwng 00.30 a 04.00 fore Sadwrn.
Dywedodd y ditectif arolygydd Graham Williams: “Yn drist iawn, mae dyn 58 oed wedi marw mewn ysbyty, wedi'r digwyddiad fore Sadwrn. Mae ein meddyliau gyda'i deulu, ac mae'n nhw'n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
"Hoffem nodi wrth y gymuned leol bod rhywun yn y ddalfa, ac nid ydym yn edrych am unrhyw un arall ar hyn o bryd.
"Rydw i eisiau diolch i'r gymuned sydd wedi bod o gymorth i'n hymchwiliad hyd yn hyn. Byddem yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth yn berthnasol i'n hymchwiliad - yn enwedig y ddau dyst posibl - i gysylltu â ni."
Mae modd cysylltu â'r heddlu drwy ddefnyddio'r cyfeirnod 2600063517.