Rhyfel Iran: Beth fydd yr effaith ar bocedi’r Cymry?

Chwyddiant

Fe wnaeth y rhyfel yn Wcráin ddangos y gall gwrthdaro rhyngwladol, er y gall deimlo’n bell i ffwrdd, gael effaith uniongyrchol ar bocedi’r Cymry.

Cododd chwyddiant yn y DU i uchafbwynt o 11.1% ym mis Hydref 2022 yn sgil ymosodiad Rwsia ar Wcráin.

Bryd hynny, roedd pwysau mawr ar brisiau ynni, bwyd a thanwydd (petrol a disel), gan gyfrannu at yr ‘argyfwng costau byw’ sy’n parhau heddiw.

Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae chwyddiant wedi gostwng, ond mae perygl y gallai’r rhyfel yn Iran wthio prisiau i fyny eto os bydd yn parhau yn yr hirdymor.

Y prif gwestiwn yw a fydd y rhyfel yn cael effaith barhaus ar longau sy’n cludo ynni drwy Gulfor Hormuz ar arfordir deheuol Iran.

Mae un o bob pum casgen o olew yn y byd yn teithio drwy’r culfor hwnnw, felly os oes unrhyw aflonyddwch, fe allai prisiau olew ddechrau codi.

Yn wir, roedd prisiau olew eisoes wedi codi 12% ym mis Chwefror dim ond oherwydd pryderon am ryfel posibl yn Iran.

Ddydd Llun, roedd pris casgen o olew yn $72 ond os ydy cwmnïau’n penderfynu ei bod hi’n rhy beryglus teithio ar hyd Culfor Hormuz am gyfnod estynedig, fe allai’r pris godi i dros $100.

Yn ogystal ag olew, mae tua 1/5 o nwy naturiol hylifedig (LNG) byd-eang yn symud drwy’r culfor, gyda Qatar yn cyfrif am y mwyafrif helaeth ohono.

Mae rhan o hwnnw’n cyrraedd Ewrop drwy Derfynell South Hook yn Aberdaugleddau, Sir Benfro.

Ddydd Llun fe gyhoeddodd cwmni Qatar Energy, sy'n berchen ar y ganolfan yn Sir Benfro, eu bod yn rhoi'r gorau i gynhyrchu eu nwy hylif naturiol LNG am y tro oherwydd ymosodiadau Iran ar rai o'u canolfannau. 

Image
Culfor Hormuz
Culfor Hormuz

Hyd yn oed os na fydd Culfor Hormuz yn cau, mae’r rhyfel yn debygol o effeithio ar allu Iran i gynhyrchu a gwerthu olew, gan arwain at gynnydd llai amlwg mewn prisiau.

Un peth a all leddfu'r cynnydd mewn prisiau yw os yw cynnydd ym mhris olew yn annog cwmnïau eraill i gynyddu cynhyrchiant.

Ddydd Sul dywedodd OPEC+, dan arweiniad Saudi Arabia, y byddai’n cynyddu cynhyrchiant olew ym mis Ebrill i 206,000 o gasgenni’r dydd.

Beth fydd yr effaith?

Yr effaith mwyaf amlwg, os bydd prisiau olew a nwy yn codi, fydd ar brisiau petrol a disel wrth lenwi’r car, a phris ynni i wresogi’r tŷ.

Ond gallai hefyd gael effaith ar brisiau popeth arall wrth i gost cynhyrchu a chludo nwyddau ar draws y byd, a chynhyrchu trydan, fynd i fyny hefyd.

Gallai hynny yn ei dro arwain at fwy o chwyddiant, a fydd yn siglo hyder busnesau, banciau canolog a hefyd cwmnïau a fydd yn penderfynu peidio â buddsoddi am y tro.

Fel dominos yn syrthio, gall y rhyfel gael effeithiau eraill sydd ddim yn amlwg ar yr olwg gyntaf hefyd.

Mae cwmnïau teithio eisoes yn dioddef, gyda phrisiau cyfranddaliadau cwmnïau fel IAG (sydd biau British Airways) a Wizz Air i lawr 7.6% a 7.3% fore dydd Llun.

Gallai hefyd effeithio ar gwmnïau teithio ac yswiriant, wrth i bobl gorfod canslo gwyliau i ardaloedd sydd bellach dan fygythiad.

Image
Awyren yn glanio

Os bydd chwyddiant yn codi, a chwsmeriaid yn teimlo hynny yn eu pocedi, fe allai gael effaith wleidyddol hefyd.

Mae Cymru yn wynebu etholiad y Senedd ym mis Mai.

Mae etholiadau pwysig eraill hefyd ar draws y byd, gan gynnwys etholiadau canol tymor (‘midterms’) yn yr Unol Daleithiau ym mis Tachwedd.

Lluniau gan PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.