Gwefan WalesOnline yn lansio gwasanaeth newyddion yn Gymraeg

01/03/2026
WalesOnline Cymraeg

Mae gwefan newyddion WalesOnline wedi lansio gwasanaeth iaith Gymraeg.

Mewn cyhoeddiad ar Ddydd Gŵyl Dewi mae'r wefan, sydd dan adain cwmni Reach, wedi lansio WalesOnline Cymraeg.

Dywedodd y wefan mai'r bwriad yw "adlewyrchu Cymru gyfoesi, fywiog a go iawn" trwy gyhoeddi straeon a deunydd fideo trwy'r Gymraeg.

Ar hyn o bryd mae WalesOnline yn cyhoeddi erthyglau a chynnwys fideo yn Saesneg yn bennaf.

"Ar ddiwrnod ein nawddsant, mae WalesOnline yn cychwyn pennod newydd yn ein hanes, sef wrth gymryd cam arwyddocaol i sicrhau bod ein cynnwys yn siarad iaith ein cartref yn ogystal â Saesneg," meddai'r datganiad.

"Rydyn ni eisiau adlewyrchu Cymru gyfoes, fywiog a go iawn. Rydyn ni’n osgoi’r ffurfiau traddodiadol er mwyn darparu’r cynnwys rydych chi eisiau ei weld, yn yr iaith rydych chi’n ei siarad. 

"Disgwyliwch i ni ddod â’r straeon sy’n wirioneddol bwysig i chi. Bydd ein cynnwys yn cynnwys cymysgedd o ddigwyddiadau lleol, straeon sy’n codi gwên, a’r wybodaeth ddiweddaraf sy’n effeithio ar eich cymunedau."

Ychwanegodd y datganiad: "Rydym yn bwriadu cyflwyno straeon yn y ffordd rydym ni’n gwybod orau: gyda chyflymder, a gyda chymhelliant i ddiddanu. 

"Dyma ddechrau cyfnod newydd i ni yn WalesOnline."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.