Teyrnged i dad a fu farw wedi ymosodiad tu allan i dafarn yng Nglyn Ebwy
Mae teulu dad a fu farw yn dilyn ymosodiad y tu allan i dafarn yng Nglyn Ebwy wedi rhoi teyrnged iddo gan ddweud bydd ‘na bellach “twll enfawr ym mywydau pawb.”
Bu farw Marcus Lee Carpenter 37, o Dredegar, wedi’r ymosodiad y tu allan i dafarn The Picture House ar Stryd Bethcar yng Nglyn Ebwy nos Wener ddiwethaf.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw wedi’r ymosodiad honedig a ddigwyddodd rhwng 23.30 a 00.15 yn ystod oriau man bore Sadwrn.
Fe gafodd Mr Carpenter ei gludo i’r ysbyty ond bu farw yn ddiweddarach.
Mae ei deulu bellach wedi rhoi teyrnged iddo gan ddweud ei fod yn “fab, partner a thad” oedd wedi ei garu’n fawr.
“Roedd Marcus yn berson unigryw ac roedd ganddo un o’r calonnau mwyaf caredig a fyddai’n helpu unrhyw un y gallai.
“Mae yna dwll enfawr ym mywydau pawb a oedd yn agos ato yn sgil ei golled.”
Roedd y teulu hefyd wedi gofyn am breifatrwydd wrth iddyn nhw alaru. Maen nhw’n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol Heddlu Gwent.
Mae dyn 30 oed o Gaerdydd wedi ei gyhuddo o ddynladdiad.
Fe wnaeth y dyn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Iau ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.
Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o gymorth i gysylltu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 2600055384.