'Steddfod Ryng-gol Caerdydd: 'Dim angen disgwyl degawd arall iddi ddychwelyd'

'Steddfod Ryng-gol Caerdydd: 'Dim angen disgwyl degawd arall iddi ddychwelyd'

Wrth i’r Eisteddfod Ryng-golegol ddychwelyd i Gaerdydd am y tro cyntaf ers 10 mlynedd, mae Is-lywydd y Gymraeg yn Undeb Myfyrwyr y brifddinas yn hyderus na fydd rhaid aros degawd arall amdani.

Fe fydd cannoedd o fyfyrwyr ledled Cymru a thu hwnt yn teithio i'r brifddinas dros y penwythnos i gystadlu mewn amryw o gystadlaethau cerddorol a chwaraeon gyda'r nod o ennill tarian yr Eisteddfod. 

Cynwal ap Myrddin ydy Is-lywydd y Gymraeg yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac fe ddywedodd wrth Newyddion S4C: "Dwi’n teimlo fa‘tha bo’ fi  wedi bod yn paratoi ar gyfer y ‘Steddfod  ’ma ers misoedd.

"Nathon ni ddechra’ ‘nôl ym mis Awst, dwi’n meddwl, oeddan ni’n dechra paratoi fa’tha staff yr Undeb, a wedyn gafon ni’n cyfarfod cynta’ efo myfyrwyr yn syth ym mis Medi, so mae o wedi bod yn amser hir.

"Ond na, wedi mwynhau lot, ‘di bod yn lot o waith, ond edrych ymlaen i weld ffrwyth llafur y gwaith caled ‘ma ‘wan y penwsos ‘ma."

Image
Myfyrwyr Aberystwyth oedd yn fuddugol yn yr Eisteddfod Ryng-golegol y llynedd.
Myfyrwyr Aberystwyth oedd yn fuddugol yn yr Eisteddfod Ryng-golegol y llynedd (Llun: Emily Janine Photography)

Roedd yr Eisteddfod Ryng-golegol i fod i gael ei chynnal yn y brifddinas bedair blynedd yn ôl, ond roedd yn rhaid ei chanslo a hynny oherwydd Covid-19. 

"'Dan ni dal yn sôn am Covid achos dyna o’dd y rheswm o’dd hi fod yma bedair mlynedd yn ôl, ond yn amlwg oeddan ni dal dan gyfyngiadau Covid ar y pryd," meddai Cynwal.

"Felly na edrych ymlaen bod hi o’r diwadd yn cael dod yn ôl yma,  ond dwi’n gobeithio’n fawr fydd na’m rhaid i ni ddisgwyl 10 mlynedd i weld y ‘Steddfod yn dod yn ôl yma."

Fe fydd cannoedd o fyfyrwyr ledled Cymru a thu hwnt yn teithio i Gaerdydd dros y penwythnos yn ôl Cynwal. 

"Mi fydd ‘na 600 o Gymry Cymraeg yn tyrru i’r brifddinas dros y penwythnos, rei o Fangor, Aberystwyth, Abertawe, ond hefyd ma’n braf gweld lot o gymdeithasau o tu allan i Gymru yn dod," meddai.

"Ma’ ‘na griw o Lerpwl, o Fanceinion ac yn y blaen, so ma’n braf gweld bo’ hwythau yn cael ymuno yn rhan o’r dathliad yma."

Image
Steddfod Ryng Gol (23).jpg
Fe fydd tua 600 o fyfyrwyr yn teithio i'r brifddinas ar gyfer y digwyddiad (Llun: Emily Janine Photography)

A hithau wedi bod yn ddegawd ers i'r Eisteddfod gael ei chynnal yng Nghaerdydd ddiwethaf, mae yna gryn edrych ymlaen ymysg myfyrwyr a staff y brifddinas yn ôl Cynwal. 

"Ma’ ‘na lot o gynnwrf, yn enwedig ymysg staff, ond hefyd ymysg y myfyrwyr achos does ‘na neb yn cofio neb bron sy’ ‘di bod yn y ’Steddfod o’dd yma 10 mlynedd yn ôl," meddai. 

"So mae na lot o gyffro, ac ia, jyst edrych ymlaen a gobeithio eith hi’n iawn ‘de!"

Fe ddywedodd Cynwal fod yna gytundeb bellach ymysg yr undebau i sicrhau bod yr Eisteddfod yn teithio o gwmpas o flwyddyn i flwyddyn i undebau a phrifysgolion gwahanol. 

"Dwi'n siŵr fydd hi ddim yn 10 mlynedd arall arna ni cyn iddi ddod 'nôl," meddai.

Er bod y dechrau wedi bod yn heriol, mae Cynwal yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth.

"Dwi'n ffodus iawn bo' 'na griw gweithgar yn Academi'r Gymraeg ac yn Ysgol y Gymraeg wedi bod yn gefn i fi a wedi fy nghefnogi fi efo lot o betha strategol," meddai.

"Dwi hefyd yn ddiolchgar i griw chwaraeon y brifysgol, ma' nhw wedi rhoi y cyfleusterau chwaraeon am ddim i'r Eisteddfod felly ma' 'na lot o ewyllys da yn y brifysgol fod y 'Steddfod yn ôl, felly diolchgar iawn."

Image
Steddfod Ryng Gol (16).jpg
Fe gafodd yr Eisteddfod ei chynnal yng Nghaerdydd ddiwethaf 10 mlynedd yn ôl (Llun: Emily Janine Photography)

Cyhoeddodd Brifysgol Caerdydd y llynedd y byddai holl fflatiau Cymraeg Llys Senghennydd yn y brifysgol mewn un bloc ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Ar hyn o bryd, mae'r fflatiau ar gyfer myfyrwyr sy'n dewis rhannu gyda siaradwyr Cymraeg yn Llys Senghennydd ar wasgar dros dri bloc gwahanol.

Ond o'r flwyddyn academaidd nesaf ymlaen, fe fydd yr holl fflatiau yn yr un bloc.

Ychwanegodd Cynwal fod y gefnogaeth y mae'r Eisteddfod Ryng-golegol wedi ei derbyn yn ogystal â'r datblygiad gyda Senghennydd yn gam yn y cyfeiriad cywir o ran y Gymraeg. 

"Ma’n dangos bod ‘na shifft amlwg yn agwedd y brifysgol bo’ nhw’n cefnogi  digwyddiadau fel hyn, bo’ nhw’n gweld gwerth mewn digwyddiadau fel hyn i Gymdeithas Gymraeg Caerdydd," meddai.

"Fel o’dd y datblygiad yn Senghennydd, ma’ hwnna eto yn dangos bod ‘na barch i’r Gymdeithas Gymraeg a bo’ nhw isio gweld y Gymdeithas Gymraeg yn tyfu ac yn cryfhau yma yng Nghaerdydd." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.