Rygbi: Cymru yn penodi'r Albanwr Pete Murchie fel hyfforddwr amddiffyn
Mae tîm rygbi dynion Cymru wedi penodi'r Albanwr Pete Murchie fel hyfforddwr amddiffyn.
Mae Murchie wedi gweithio fel hyfforddwr sgiliau ac yna fel hyfforddwr amddiffyn dros glwb Glasgow Warriors am gyfnod o bum mlynedd.
Yn gyn-chwaraewr rhyngwladol gyda thri chap dros yr Alban, roedd hefyd yn hyfforddwr amddiffyn dros ei wlad am gyfnod yn 2021.
Ond ni fydd Murchie yn rhan o dîm hyfforddi Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad, gan ei fod yn ymuno cyn Pencampwriaeth y Cenhedloedd, sydd yn dechrau yn yr haf, ar ôl i’w gytundeb â chlwb Koelco Kobe Steelers yn Japan ddod i ben.
Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Steve Tandy, a oedd hefyd yn hyfforddwr amddiffyn yr Alban am gyfnod o chwe blynedd, wedi disgrifio’r penodiad fel un "mawr” i’w dîm.
"Mae’n wych gallu croesawu Pete i’n tîm hyfforddi," meddai.
“Mae’n alluog iawn o safbwynt arddull chwarae a’r cyflwr meddyliol sydd ei angen ar chwaraewyr.
“Bydd yn gaffaeliad mawr i ni fel carfan ac rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at ei gael gyda ni dros yr haf.”
Dywedodd Pete Murchie: "Mae derbyn y cyfle yma gyda Chymru – gyda chymaint o gemau a chystadlaethau cyffrous sy’n tynnu dŵr i’r dannedd ar y gorwel – yn gyffrous iawn i fi a fy nheulu.
"Roedd y ffaith mai Steve sydd wrth y llyw yn ffactor bwysig iawn yn fy mhenderfyniad. Mae’n hyfforddwr sy’n haeddu ei le ar lwyfan y byd ac rydyn ni wedi gweithio gyda’n gilydd o’r blaen.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â’r garfan a bwrw ati i’r gwaith dros fisoedd yr haf."