Pwy ddaeth i'r brig yng Ngwobrau Bafta 2026?
Fe lwyddodd yr actor Robert Aramayo i greu hanes yn seremoni'r Baftas eleni trwy gipio'r wobr am yr actor gorau a'r wobr seren i'w gwylio.
Mae'r wobr seren i'w gwylio ('raising star award') yn cael ei rhoi i actorion sydd ar ddechrau eu gyrfa.
Roedd Aramayo yn ei ddagrau wrth ddod i nôl y wobr am yr actor gorau gan ddweud nad oedd yn gallu "credu'r peth".
Roedd enwau Hollywood mawr yn yr un categori ag o gan gynnwys Leonardo DiCaprio a Timothée Chalamet
Yn y ffilm I Swear mae'n portreadu bywyd John Davidson, ymgyrchydd Syndrom Tourette.
Jessie Buckley enillodd y wobr am yr actores orau am ei phortread o wraig Shakespeare yn y ffilm Hamnet. Dyma'r tro cyntaf i actores o Iwerddon ennill y wobr.
Roedd hi'n noson lwyddiannus i One Battle After Another a gafodd y wobr am y ffilm orau a phump Bafta arall.
Yn eu plith roedd y cyfarwyddwr gorau a aeth i Paul Thomas Anderson a'r actor cynorthwyol gorau a gafodd ei rhoi i Sean Penn.
Wunmi Mosaku ddaeth i’r brig yng nghategori’r actores gynorthwyol orau am ei rôl yn y ffilm Sinners.
Fe gurodd hi Carey Mulligan am ei rôl yn The Ballad of Wallis Island, a gafodd ei ffilmio ar arfordir Sir Benfro ac yn Sir Gâr.
Cafodd y Gymraes o Abertawe, Lauren Evans Bafta am ei rôl yn castio ar gyfer y ffilm I Swear.
Fe enillodd Hamnet, sydd yn adrodd hanes teuluol Shakespeare, Bafta am ffilm Brydeinig eithriadol.
One Battle After Another enillodd hefyd yn y categorïau golygu, sinematograffi, yn ogystal â’r sgript orau a gafodd ei haddasu.
Sinners, sef ffilm am fampirod gyda Michael B. Jordan a Hailee Steinfeld enillodd y wobr am y sgript wreiddiol orau a’r sgôr gerddorol wreiddiol.
Fe ddaeth Frankenstein i’r brig mewn sawl categori hefyd drwy ennill gwobrau am ddylunio cynhyrchiad, gwallt a cholur a gwisgoedd.
Pa ffilmiau eraill ddaeth i'r brig?
Y drydedd ffilm yn y gyfres Avatar, sef Avatar: Fire and Ash oedd enillydd Bafta cyntaf y noson, gan ddod i’r brig yng nghategori effeithiau gweledol.
I Swear daeth i’r brig gyda’r cast gorau, Zootropolis 2 enillodd y ffilm animeiddiedig orau, F1 oedd yn fuddugol yn y categori sain, a Sentimental Value enillodd y wobr am ffilm mewn iaith heblaw'r Saesneg - gan ei gwneud y ffilm Norwyaidd gyntaf i ennill Bafta.
Mr Nobody Against Putin enillodd y wobr am y rhaglen ddogfen gorau. Cafodd ei ffilmio dros gyfnod o ddwy flynedd a hanner gyda chamerâu cudd mewn ysgol yn Rwsia.
Fe wnaeth yr arth enwog Paddington ymddangosiad arbennig yn ystod y seremoni gan gyflwyno’r wobr am y ffilm orau i blant a theuluoedd i Boong.
This is Endometriosis enillodd y Bafta am y ffilm fer Brydeinig orau, gyda Two Black Boys in Paradise yn ennill y wobr am yr animeiddiad fer Brydeinig orau.
Cafodd Akinola Davies Jr ei wobrwyo ar ôl ennill y Bafta am ffilm gyntaf gan awdur, cyfarwyddwr neu gynhyrchydd o Brydain gyda My Father’s Shadow.
Fe gafodd y cynhyrchydd Claire Binns, sef cyfarwyddwr creadigol Picturehouse Cinemas, ei chyflwyno gyda Bafta am ei chyfraniad eithriadol i fyd sinema yn ystod y seremoni.
Yr actor, cyfarwyddwr a’r cyflwynydd o’r Alban, Alan Cumming a gyflwynodd y seremoni yn y Royal Festval Hall yn Llundain nos Sul. Fe wnaeth o ymddiheuro yn ystod y seremoni am fod yna regfeydd wedi eu clywed.
Roedd John Davidson, sydd yn cael ei bortreadu yn y ffilm I Swear ymhlith rhai o'r bobl yn y gynulleidfa. Mae'r ffilm yn sôn am ei fywyd gyda'r cyflwr Tourette.
Dywedodd Cumming bod "iaith gref" yn medru bod yn rhan o'r cyflwr Tourette. "Diolch am ddeall ac am greu awyrgylch barchus i bawb," meddai Cumming.
