Obama yn beirniadu fideo sarhaus - a’n trafod bodau o fydoedd eraill

15/02/2026
Barack Obama

Mae Barack Obama wedi condemnio fideo a gafodd ei rannu gan ei olynydd yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, a oedd yn ei bortreadu ef a’i wraig fel mwncïod.

Roedd diwedd y fideo, a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, yn dangos wynebau Barack a Michelle Obama ar gyrff mwncïod wrth i gerddoriaeth The Lion King chwarae yn y cefndir.

Fe wnaeth Donald Trump ddileu’r fideo o’i gyfrif ar Truth Social yn ddiweddarach.

Dywedodd y Tŷ Gwyn bod y fideo wedi cael ei gyhoeddi gan aelod o staff, a dywedodd Donald Trump nad oedd ganddo unrhyw beth i ymddiheuro amdano.

Wrth siarad ar sianel YouTube Brian Tyler Cohen ddydd Sadwrn, dywedodd Barack Obama ei fod yn dangos bod yna bellach ddiffyg parch mewn gwleidyddiaeth yn yr Unol Daleithiau.

“Yn gyntaf oll, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig cydnabod bod ymddygiad fel hyn yn peri pryder mawr i’r rhan fwyaf o bobl America,” meddai Barack Obama.

“Mae’n wir ei fod yn cael sylw. Mae’n wir ei fod yn tynnu sylw pobl.

“Ond, wrth i mi deithio o gwmpas y wlad, wrth i ti deithio o gwmpas y wlad, rwyt ti’n cwrdd â phobl – ac maen nhw’n dal i gredu mewn ymddwyn mewn modd gweddus, cwrteisi a charedigrwydd.”

Fe ychwanegodd: “Mae’n syrcas sy’n digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar y teledu.

“Does dim cywilydd bellach ymhlith pobl a arferai deimlo bod yn rhaid i chi gael rhyw fath o weddusrwydd a synnwyr o briodoldeb, a pharch at y swydd.

“Felly mae hynny wedi’i golli.”

‘Maen nhw’n bodoli’

Dywedodd Barack Obama hefyd ar y sianel YouTube mai’r peth cyntaf yr oedd e am ei wybod ar ôl cael ei urddo’n Arlywydd yr Unol Daleithiau oedd a oedd bodau o fydoedd eraill yn bodoli.

“Ble mae’r aliens?” meddai Barack Obama, gyda’i dafod yn ei foch.

“Maen nhw’n bodoli. Ond dydw i ddim wedi’u gweld nhw.

“Dydyn nhw ddim yn cael eu cadw yn Area 51.

“Does dim canolfan danddaearol – oni bai bod yna gynllwyn mawr i gadw’r cyfan rhag Arlywydd yr Unol Daleithiau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.