Kieffer Moore allan o garfan tîm pêl-droed Cymru

NS4C

Mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi cyhoeddi fod yr ymosodwr Kieffer Moore yn hunanynysu ar ôl dod i gysylltiad agos ag achos positif o Covid-19 yn y garfan.

Daw hyn ar ôl i’r gymdeithas gadarnhau ddydd Mawrth fod Adam Davies, sy’n chwarae yn safle’r gôl-geidwad, wedi profi’n bositif am yr haint.

Mae Tom King wedi ei alw i’r garfan yn ei le. Nid yw’r gymdeithas wedi cyhoeddi pwy fydd yn cymryd lle Moore.

Bydd y ddau chwaraewr yn hunanynysu am 10 diwrnod ac felly ni fydden nhw’n chwarae i Gymru yn ystod eu tair gêm nesaf.

Fe fydd yn ergyd arall i'r tîm, yn dilyn cadarnhad dros y penwythnos fod Aaron Ramsey, Joe Rodon, George Thomas a Neco Williams allan o'r garfan oherwydd anaf. 

Mae Cymru yn paratoi i herio’r Ffindir mewn gêm gyfeillgar nos Fercher, cyn wynebu Belarws ac Estonia yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 yn ddiweddarach yn y mis.

Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans