Rhybudd melyn am law trwm i dde Cymru
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law i'r rhan helaeth o dde Cymru ddydd Llun.
Fe fydd y rhybudd yn dod i rym am 12.00 ddydd Llun ac yn dod i ben am 23.59.
Mae disgwyl i lawr trwm ymledu ar draws siroedd de Cymru, gyda pheryg y gallai achosi llifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau.
Fe allai cawodydd trwm achosi oedi ar y ffyrdd ac i drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae'n bosib y bydd yn amharu ar gyflenwadau trydan am gyfnod, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Mae disgwyl i 10-15mm o law ddisgyn yn y rhan fwyaf o lefydd o fewn ardal y rhybudd, gyda hyd at 20-30mm o law yn disgyn ar dir uwch.
Fe fydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell Nedd-Port Talbot
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Fynwy
- Sir Gâr
- Torfaen