Pwy yw'r Cymry fydd yn cystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf?
Pwy yw'r Cymry fydd yn cystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf?
Fe fydd sawl un o Gymru yn cystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn Yr Eidal dros yr wythnosau nesaf.
Mae'r gystadleuaeth, a fydd yn cael ei gynnal yn ninas Milan a mynyddoedd yng ngogledd y wlad, yn cychwyn ddydd Gwener ac yn para tan 22 Chwefror, gydag athletwyr yn cystadlu mewn sawl camp.
Un o Gymru fydd yn cystadlu yw Mica Moore o Gasnewydd - ond nid dros Brydain.
Bydd y fenyw 32 oed yn cynrychioli Jamaica yn y gystadleuaeth bobsled.
Fe wnaeth Ms Moore dderbyn dinasyddiaeth Jamaicaidd ym mis Rhagfyr 2024.
Mae hi wedi cynrychioli Cymru ar y trac yng Ngemau'r Gymanwlad, ond eleni fe fydd hi'n cynrychioli gwlad ei chyndeidiau.
'Cymru ar y map'
Un fydd hefyd yn cystadlu yn y digwyddiad fydd Adele Nicoll o'r Trallwng.
Hi oedd y fenyw gyntaf i gystadlu yn y monobob ac eleni fe fydd hi’n cystadlu yn y slediau dwbl gyda'r Gymraes Kya Placide yn eilydd iddi.
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C y bydd hi'n "rhoi Cymru ar y map" yn ystod y gystadleuaeth.
“Yn tyfu i fyny roeddwn i bob amser eisiau bod yn rhywun a fyddai’n gwneud hanes," meddai.
“Gan fy mod i o dref fach, wledig yng nghanolbarth Cymru, nid oedd pob tro yn rhywbeth gweladwy, bod chi’n gallu bod yn rhywun a fyddai’n rhan o hynny.
“Ond rydw i bob amser wedi fy amgylchynu gan y ffrindiau, y teulu, yr hyfforddwyr a'r noddwyr gorau ac maen nhw i gyd wedi fy annog i barhau.
“Gwelson nhw rywbeth ynof i o oedran ifanc nad oeddwn i efallai’n gwybod ei fod gen i fy hun.
“Rydw i’n mynd â fy nhreftadaeth Gymreig gyda mi ac rydw i’n rhoi Cymru ar y map.”
Bydd Joe Davies, sydd yn wreiddiol o Ganada ond ei dad yn wreiddiol o Gaerdydd, yn rhan o dîm sgïo traws gwlad Prydain.
Mae wedi cystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd yn Norwy y llynedd.
Ac ef sydd â chanlyniad gorau Cymro erioed ar gylchdaith Cwpan y Byd, pan orffennodd yn y 6ed safle yng ngogledd yr Eidal.
Pum medal yw'r mwyaf i Brydain ennill erioed yng Ngemau Gymanwlad y Gaeaf, ac wyth yw'r nod eleni.
Dyw Cymry erioed wedi ennill mwy na dwy o fedalau yn gemau, ond y gobaith eleni yw y bydd hynny yn newid.
