Disgwyl i Wrecsam ymgeisio ar gyfer Dinas Diwylliant 2029
Mae Wrecsam wedi cyflwyno "mynegiant o ddiddordeb swyddogol" i geisio cipio teitl Dinas Ddiwylliant y Deyrnas Unedig yn 2029.
Mae'r wobr yn cael ei gwobrwyo i un ddinas yn y DU pob pedair blynedd, gyda Bradford yn ennill yn 2025.
Roedd Wrecsam ar y rhestr fer adeg hynny, ond nid oedd y ddinas yn llwyddiannus y tro hwnnw.
Byddai cipio'r teitl yn golygu y byddai'r ddinas yn ennill £10 miliwn gan Lywodraeth y DU er mwyn ei wario i "ddenu buddsoddiad, hybu twristiaeth a gwella mynediad i'r celfyddydau a diwylliant."
Hefyd mae disgwyl y gallai hawlio'r teitl gynhyrchu dros £200m o fudd economaidd i ranbarth gogledd-ddwyrain Cymru.
'Unigryw'
Dywedodd Amanda Evans, cyfarwyddwr y cais bod "pob, tref a phentref" yn rhan o'r ymgyrch.
“Rydym yn falch o gyrraedd y cam pwysig cyntaf ar ein taith i ddod yn Ddinas Ddiwylliant y Deyrnas Unedig yn 2029,” meddai.
“Mae Wrecsam yn lle o greadigrwydd anhygoel, lle mae amrywiaeth diwylliant yn ffynnu ym mhob rhan o’n sir.
“Mae’r cais hwn ar gyfer cymuned gyfan Wrecsam – pob tref, pentref, a chymdogaeth – ac mae’n gyfle i rannu ein stori unigryw ac anhygoel gyda gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.”
Mae'r cais yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Cymuned a Diwylliant Wrecsam (WCCT), elusen annibynnol sydd yn cael ei chefnogi gan Gyngor Wrecsam.
Mae'r elusen yn anelu i "hyrwyddo a chefnogi datblygiad seilwaith diwylliannol a chreadigol" y ddinas.
Bydd y rhestr o ddinasoedd sydd wedi ymgeisio yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU ym mis Mawrth, ac fe fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn y gaeaf.