Galw am wyrdroi dileu’r cynnydd mewn Credyd Cynhwysol

Mae llywodraethau datganoledig y Deyrnas Unedig wedi anfon llythyr at Lywodraeth Prydain yn eu hannog i wyrdroi’r penderfyniad i ddileu’r cynnydd wythnosol o £20 mewn Credyd Cynhwysol.
Yn ôl Golwg360, maen nhw wedi mynegi “pryderon dybryd” yn eu llythyr at Therese Coffey, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau.
Jane Hutt, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd wedi llofnodi’r llythyr ar ran Llywodraeth Cymru, ynghyd â Shona Robinson, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, Tai a Llywodraeth Leol yr Alban, a Deidre Hargey, Gweinidog Cymunedau Gogledd Iwerddon.
Darllenwch y stori'n llawn yma.