Price yn curo Clayton i gyrraedd wyth olaf Meistri’r Byd

31/01/2026
Gerwyn Price

Gornest rhwng dau Gymro oedd hi i gyrraedd rownd wyth olaf pencampwriaeth dartiau Meistri’r Byd ym Milton Keynes brynhawn ddydd Sadwrn.

Gerwyn Price oedd yn fuddugol o drwch blewyn yn erbyn ei ffrind a’i gyd-chwaraewr dros Gymru Jonny Clayton.

Fe aeth yr ornest i’r cymal olaf un gyda’r cyfanswm setiau yn gyfartal 3-3 gyda’r cyntaf i bedair set yn ennill.

Mewn gêm o safon uchel, fe aeth Clayton ar y blaen o 2-0 trwy chwarae’n gyson a llyfn.

Fe lwyddodd Price i gadw yn y gêm gan daro nôl i 2-2 gan orffen gyda 161 a 126.

Fe aeth Price ar y blaen o 3-2 cyn i Clayton ddod yn gyfartal ar 3-3.

Aeth y gêm i’r cymal olaf ar ôl i Price fethu gyda phum dart i ennill.

Fe gadwodd Price, sydd heb ennill y gystadleuaeth, ei nerfau i sicrhau’r fuddugoliaeth o 4-3.

Fe fydd Price nawr yn herio Chris Dobey o Loegr yn rownd yr wyth olaf ddydd Sul.

Llun: X/PDC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.