Trump yn pwyso a mesur ymosodiadau ‘llawer gwaeth’ ar Iran
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi dweud ei fod yn pwyso a mesur ymosodiad “llawer gwaeth” ar Iran.
Daw hyn ar ôl i drafodaethau rhwng Washington a Tehran ynglŷn â chyfyngu ar raglen niwclear Iran fethu â gwneud cynnydd, yn ôl ei weinyddiaeth.
Mae Tehran wedi addo ymateb ar unwaith i unrhyw gamau milwrol gan yr Unol Daleithiau.
Mae un o brif gynghorwyr arweinydd goruchaf y wlad, yr Ayatollah Ali Khamenei, wedi bygwth targedu Israel os bydd ymosodiad gan yr Unol Daleithiau yn mynd rhagddo.
Postiodd Trump ddydd Mercher ar gyfrwng Truth Social, gan fynnu bod Iran yn trafod “bargen deg a chyfiawn – DIM ARFAU NIWCLEAR.”
Rhybuddiodd y byddai ymosodiad nesaf yr Unol Daleithiau ar y wlad “yn llawer gwaeth” na’r un a gyflawnwyd yr haf diwethaf, pan ymosododd milwyr yr Unol Daleithiau ar safloedd niwclear yn y wlad.
Daw’r bygythiad ar ôl i lywodraeth Iran ladd gannoedd, os nad miloedd, o bobl oedd wedi bod yn protestio yn erbyn arweinwyr y wlad ddiwedd mis Rhagfyr a dechrau mis Ionawr.
Yn ôl yr asiantaeth sy’n ymgyrchu o blaid hawliau dynol yn Iran, HRANA, mae o leiaf 6,159 o bobl wedi cael eu lladd ers i’r aflonyddwch ddechrau.
Dywedodd ffynhonnell o fewn y Tŷ Gwyn wrth CNN fod Donald Trump yn ystyried ymosodiadau yn erbyn arweinwyr Iran a swyddogion diogelwch blaenllaw oedd yn gyfrifol am orchymyn lladd protestwyr.
Roedd Trump yn credu bod ei opsiynau milwrol wedi’u hehangu o’i gymharu â chynharach yn y mis, yn sgil i grŵp o gludwyr awyrennau’r Unol Daleithiau hwylio i’r rhanbarth.
Llun: Donald Trump a'r USS Abraham Lincoln.

