Carcharu dyn am werthu cocên ar Ynys Môn

Jordan Lee Jones

Mae gwerthwr cyffuriau wnaeth gyfaddef gwerthu cocên ar Ynys Môn wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd a 10 mis.

Mi ymddangosodd Jordan Lee Jones, o Stad Cae Rhun, Bae Cemaes, yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher.

Mi gyflawnodd swyddogion warant yng nghartref Jones ar 22 Rhagfyr 2025, lle wnaethon nhw ddarganfod swm sylweddol o gocên ac arian parod.

Mi gafodd ei gar ei chwilio hefyd, ac mi ganfuwyd mwy o gyffuriau, arian parod ac arfau.

Wrth ymddangos o flaen y llys roedd Jordan Lee Jones eisoes wedi cyfaddef ei fod wedi bod â chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant gyda’r bwriad o’u cyflenwi.

Roedd hefyd wedi meddu ar eiddo troseddol ac arf ymosodol mewn lle preifat.

Dywedodd y cwnstabl Jamie McDaid nad oedd “croeso i unigolion sy’n ceisio gwneud elw ar draul pobl agored iawn i niwed ar Ynys Môn”.

“Mae cyflenwi cyffuriau anghyfreithlon yn arwain at drais, ymddygiad gwrthgymdeithasol a mwy o droseddau eraill,” meddai.

“Mae ganddo effaith ddinistriol ar unigolion, teuluoedd a chymdogaethau.

“Ni fydd delio cyffuriau yn cael ei oddef, ac mae dedfryd Jones yn rhybudd y byddwn yn ymchwilio’n gadarn ac yn mynd ar drywydd y rhai sy’n gysylltiedig.

“Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am ddelio cyffuriau ar Ynys Môn roi gwybod am bryderon i’r heddlu drwy ein gwefan, drwy ffonio 101, neu’n ddienw drwy Crimestoppers.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.