Y cyflwynydd tywydd Carol Kirkwood yn gadael y BBC ar ôl mwy na 25 mlynedd
Mae’r cyflwynydd tywydd Carol Kirkwood wedi dweud y bydd yn gadael y BBC ar ôl mwy na 25 mlynedd gyda’r darlledwr.
Dywedodd nad oedd “yn benderfyniad hawdd i’w wneud”, ond ychwanegodd ei fod yn “teimlo fel yr amser iawn i gamu i ffwrdd”.
Bydd y gyflynwraig 63 oed, a ymunodd â'r BBC ym 1998, yn gadael ym mis Ebrill.
Mewn datganiad, dywedodd: “Mae wedi bod yn fraint dod â’r tywydd i chi bob dydd.
“Mae fy swydd yn rhywbeth nad ydw i erioed wedi’i chymryd yn ganiataol, ac rydw i wedi caru pob munud!
“Rydw i wedi rhannu bob math o ragolygon tywydd gyda chydweithwyr anhygoel ar BBC Breakfast, BBC Weather a rhaglenni ar draws y BBC.
“Hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth a’u cyfeillgarwch, sydd wedi golygu’r byd i mi.
“Ac i’r rhai sy’n gwylio ac yn gwrando gartref – diolch am yr holl garedigrwydd rydych chi wedi’i ddangos tuag ata i dros y blynyddoedd. Mae bod yn rhan o’ch boreau wedi bod yn hyfryd.
“Nid yw hwn wedi bod yn benderfyniad hawdd i’w wneud, ond mae’n teimlo fel yr amser iawn i gamu i ffwrdd.
“Byddaf yn cario’r atgofion mwyaf rhyfeddol gyda fi am byth.”
