Undeb Rygbi Cymru yn trafod gwerthu Caerdydd i berchnogion y Gweilch
Undeb Rygbi Cymru yn trafod gwerthu Caerdydd i berchnogion y Gweilch
Heb ennill gem yn y Chwe Gwlad ers mis Mawrth 2023 roedd 'na gryn ddyfalu pwy fyddai Steve Tandy yn dewis eleni y bencampwriaeth cyntaf fel Prif Hyfforddwr.
Fel sy'n digwydd yn gyson ym myd rygbi Cymru bellach materion gweinyddol sydd wedi hawlio'r penawdau.
"Rugby questions first, is it?"
Y prif hyfforddwr yn ymateb i stori nad oes a wnelo fi ddim byd a hi.
"If you're a part of any club, it would sting and hurt.
"There's a lot of history with every club.
"I played for the Ospreys, coached them and am proud of them but I know there's pride in the Dragons, Cardiff, Scarlets."
Fis Ebrill, cymerodd Undeb Rygbi Cymru reolaeth o Rygbi Caerdydd wedi iddyn nhw fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Neithiwr, cyhoeddod yr Undeb eu bod wedi cymeradwyo cynnig i brynu'r rhanbarth.
Ry'n ni'n deall mai cwmni Y11 yw'r cwmni hwnnw, perchnogion y Gweilch.
Mae rheolau World Rugby yn datgan yn glir na all un sefydliad fod yn berchen ar ddau dim yn yr un gystadleuaeth.
"Mae'n edrych yn ofidus iawn a'r Gweilch yn fregus dros ben.
"Mae lot o ddicter a lot o'r cefnogwyr yn teimlo'n grac.
"Ai anelu'r teimladau 'na at yr Undeb neu at y perchnogion?
"Wnaeth y perchnogion addo mai cynllun hirdymor oedd hwn."
Yn Ysgol Ystalyfera heddiw, roedd 'na deimladau cymysg.
Balchder bod dau gyn-ddisgybl yn y garfan ryngwladol.
"Mae Dan wedi cael effaith fawr ar y Gweilch a Chymru.
"Mae'n chwaraewr amazing.
"Hefyd, mae Reuben yn amazing."
Ond pryder hefyd ynglyn a sefyllfa'r Gweilch.
"Mae popeth wedi newid.
"O fewn blwyddyn, sneb yn siwr os fydd tim rhanbarthol yn ein hardal.
"Oes academi yn mynd i fod? Oes llwybr pendant."
Dywed Cyngor Abertawe eu bod yn archwilio pob opsiwn posib sy'n cynnwys cael cyngor cyfreithiol.
A hynny i sicrhau bod rygbi rhanbarthol yn parhau yma a bod y Gweilch yn dychwelyd i chwarae ar faes Sain Helen.
Dywed Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart bod diffyg eglurdeb Undeb Rygbi Cymru'n annerbyniol.
Bydd y Cyngor yn cysylltu a pherchnogion y Gweilch, Y11 i gael rhagor o wybodaeth.
Mynnu mae'r Cyngor bod y gwaith o ailddatblygu stadiwm yn Sain Helen yn parhau.
"Y prif deimlad yw siom.
"Fy holl fywyd, mae'r Gweilch wedi bodoli.
"Os y'n nhw'n mynd, beth yw'r pwynt cefnogi tim arall?"
Mae'n ymddangos bod y chwaraewyr hefyd yn y niwl a nifer o chwaraewyr, gan gynnwys capten Cymru, Dewi Lake yn rhannu neges ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd nad ydyn nhw wedi cael unrhyw wybodaeth gan yr Undeb na pherchnogion y Gweilch.
Bydd Prif Weithredwr a Chadeirydd Undeb Rygbi Cymru yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan yfory.
Cyfle i wleidyddion graffu ar benderfyniad yr Undeb i dorri un rhanbarth a'r effaith posib ar y gem yma yng Nghymru.
