Posibilrwydd o weithredu diwydiannol pellach gan weithwyr y DVLA

Mae'n bosib y bydd gweithwyr yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn cwblhau cyfnod pellach o weithredu diwydiannol, wrth i anghydfod am ganllawiau Covid-19 barhau.
Mae anghydfod ynghylch mesurau iechyd yn ymwneud â chanllawiau Covid-19 ym mhencadlys y DVLA bellach wedi bod yn mynd yn ei flaen ers 20 wythnos, yn ôl ITV Cymru.
Mae aelodau'r undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) yn y safle yn Abertawe yn cael eu gofyn a ydyn nhw am gynnal mwy o weithredu diwydiannol yn sgil pryderon parhaus.
Mae'r DVLA yn mynnu eu bod yn sicrhau fod eu swyddfeydd yn ddiogel ar gyfer staff, gan ychwanegu eu bod yn dilyn canllawiau'r llywodraeth wrth ymateb i'r coronafeirws.
Dywedodd llefarydd ar ran y DVLA fod diogelwch eu staff yn "hollbwysig".
Darllenwch y stori'n llawn yma.