Teyrngedau i barafeddyg ‘uchel ei barch’ o Sir Ddinbych
Mae teyrngedau wedi eu rhoi barafeddyg o Sir Ddinbych a weithiodd yng ngogledd Cymru am dros 20 mlynedd.
Bu farw Dermot O’Leary, rheolwr gweithrediadau gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yr wythnos diwethaf yn 64 oed yn dilyn salwch byr.
Roedd y tad i ddau o blant yn wyneb amlwg wrth iddo hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd a gwaith partneriaeth gyda gwasanaethau brys eraill.
Cyn ei farwolaeth roedd, Dermot, a oedd yn byw yn Llandudno, yn rheolwr ardal dros dro yng Nghonwy a Sir Ddinbych.
Mae’n gadael ar ei ôl ei wraig, Cornelia, ei fab Gregory a’i ferch Annabel.
Dywedodd Emma Wood, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Roedd Dermot yn angerddol am ei waith, ac roedd ei ymroddiad tuag at ei gleifion a staff eraill yn wirioneddol eithriadol.
"Yn barafeddyg medrus iawn, gofalodd am filoedd o gleifion ar draws gogledd Cymru dros nifer o flynyddoedd, gan ddangos angerdd a thosturi bob tro.
"Roedd Dermot yn aelod uchel ei barch o’n tîm a oedd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau partner hefyd.
"Mae pob un ohonom yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru yn drist iawn am farwolaeth y bonheddwr caredig ac ystyriol hwn.
"Diolch yn fawr, Dermot, am bopeth a wnaethoch chi roi i WAST - bydd colled fawr ar eich ôl."
‘Cydymdeimlad dwys’
Dechreuodd Dermot ei yrfa gyda Gwasanaeth Ambiwlans Essex cyn ymuno â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn 2001 fel technegydd meddygol brys.
Fe gymhwysodd fel parafeddyg yn 2003, cafodd ei benodi’n goruchwyliwr parafeddygol yn 2006, daeth yn arweinydd tîm clinigol yn 2013 a rheolwr gweithrediadau ar ddyletswydd yn 2020.
Ochr yn ochr â’i rôl, neilltuodd amser sylweddol i addysgu’r cyhoedd am ddiogelwch ffyrdd.
Gweithiodd gyda’i gydweithwyr o wasanaethau golau glas eraill i gyflwyno’r sioe drawiadol Deadly Mates i ysgolion a cholegau ar draws gogledd Cymru.
Yn 2023, trefnodd ymweliad ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin i Orsaf Ambiwlans Y Rhyl i’w cefnogi ar ôl iddyn nhw gael eu dadleoli.
Roedd gan Dermot hefyd 26 mlynedd o wasanaeth gyda Ffiwsilwyr Cymreig y Fyddin Diriogaethol, rhan o'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.
Yn gynrychiolydd undeb llafur, fe gyflwynodd hyfforddiant digwyddiadau mawr i staff ambiwlans a chydweithwyr o wasanaethau brys eraill hefyd.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman KPM o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn drist iawn i glywed am farwolaeth Dermot O'Leary, parafeddyg ymroddedig y mae ei ymrwymiad diysgog i achub bywydau yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'w rôl glinigol.
"Gwnaeth ei broffesiynoldeb a'i bresenoldeb tawel argraff barhaol ar bawb a gafodd y fraint o weithio ochr yn ochr ag ef.
"Trwy ymgyrchoedd diogelwch ffyrdd ar y cyd, digwyddiadau addysgol a chydweithio rheng flaen, chwaraeodd Dermot rôl hanfodol wrth amddiffyn ein cymunedau a hyrwyddo ffyrdd mwy diogel i bawb - ni fydd ei gyfraniad yn cael ei anghofio.
"Bydd yn cael ei gofio gyda pharch, diolchgarwch ac edmygedd."
Ychwanegodd Dawn Docx, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Gyda thristwch mawr y cawsom wybod am farwolaeth Dermot.
"Rwy’n gwybod bod cydweithwyr ar draws y gwasanaeth wedi gweithio’n agos gyda Dermot dros nifer o flynyddoedd, a gwnaeth ei ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth ac amddiffyn ein cymunedau argraff barhaol ar gynifer.
"Rydym yn meddwl amdanoch chi gyd."