Y BBC yn ceisio cael gwared o achos enllib Donald Trump

BBC

Fe fydd y BBC yn cymryd camau cyfreithiol i gael gwared ar achos enllib gwerth 10 biliwn o ddoleri gan Donald Trump am y ffordd y cafodd rhaglen Panorama ei golygu, yn ôl dogfennau llys.

Fe wynebodd Panorama feirniadaeth ddiwedd y llynedd dros bennod a ddarlledwyd yn 2024, am roi'r argraff bod arlywydd yr Unol Daleithiau wedi annog ei gefnogwyr i ymosod ar adeilad y Capitol yn 2021.

Yn y bennod, cafodd darn o araith Mr Trump ar 6 Ionawr 2021 ei addasu i’w ddangos yn dweud: “Rydyn ni’n mynd i gerdded i lawr i’r Capitol… a byddaf yno gyda chi. Ac rydyn ni’n ymladd. Rydyn ni’n ymladd fel uffern.”

Mae Mr Trump yn ceisio hawlio hyd at 10 biliwn o ddoleri (£7.5 biliwn) mewn iawndal o achos golygu’r araith, gyda’i gyfreithwyr yn honni ei bod yn “ffug ac yn enllibus”.

Bydd y BBC yn cyflwyno cynnig i gael gwared ar yr achos, gan honni nad oes gan lys Florida “awdurdodaeth bersonol” drostynt, bod lleoliad y llys yn “amhriodol” a bod Mr Trump wedi “methu â datgan hawliad”, yn ôl dogfennau a gyflwynwyd yn hwyr nos Lun.

Fe fydd y gorfforaeth yn dadlau nad oedd wedi creu, cynhyrchu na darlledu’r rhaglen ddogfen yn Florida ac nad yw honiad Mr Trump bod y rhaglen ddogfen ar gael yn yr Unol Daleithiau ar y gwasanaeth ffrydio BritBox yn wir.

Bydd hefyd yn honni bod yr arlywydd wedi methu â “honni’n gredadwy” bod y BBC wedi cyhoeddi’r rhaglen ddogfen gyda “gwir falais”, rhywbeth y mae’n ofynnol i swyddogion cyhoeddus ei ddangos wrth gyflwyno achos am enllib yn yr Unol Daleithiau.

 
 
 
 
 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.