Penodi'r Cymro Eric Ramsay yn brif hyfforddwr West Brom

Eric Ramsay (FAW)

Mae tîm pêl-droed West Bromwich Albion wedi penodi'r Cymro Cymraeg Eric Ramsay yn brif hyfforddwr newydd y clwb. 

Mae Ramsay, 34, sydd yn wreiddiol o Lanfyllin ym Mhowys yn gadael clwb Minnesota United ym mhrif gynghrair America ar ôl dau dymor, ac yn olynu Ryan Mason a gafodd ei ddiswyddo ddydd Mawrth. 

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C ym mis Rhagfyr, fe ddywedodd Ramsay, ei fod wedi bod yn dysgu Cymraeg gyda help ei wraig, Sioned, sydd o Ynys Môn.

“Mae o wedi bod yn brofiad anhygoel i fi ac i’r teulu," meddai'r tad i ddau am ei amser yn yr UDA. 

"Mae cael y cyfle i deithio drwy America fel teulu, bod mewn dinasoedd gwahanol bob yn ail wythnos, dyna’r classic American adventure mewn ffordd.

“O ran chwaraeon, mae o wedi bod cystal a fyswn i wedi gobeithio. Dim yn berffaith, does dim trophy, ond mi ydan ni wedi bod yn competitive iawn dros ddwy flynedd.

“O fy safbwynt i, mae cymryd fy camau cyntaf fel prif hyfforddwr, dwi’n gwybod fy mod i wedi tyfu lot dros y ddwy flynedd.”

Mae West Brom ar hyn o bryd yn 18fed yn y Bencampwriaeth.

Mae Ramsay wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd a hanner gyda'r clwb, ac fe fydd wrth y llyw am y tro cyntaf gartref yn erbyn Middlesbrough ddydd Gwener. 

Fe gafodd Ramsay hefyd ei benodi fel hyfforddwr datblygu chwaraewyr gyda Manchester United o dan Ole Gunnar Solskjaer yn 2021 cyn gweithio o ran Ralf Rangnick ac Erik ten Hag.

Fe weithiodd hefyd fel is-hyfforddwr i Gymru gyda Rob Page yn 2023 hefyd.

'Pwysig iawn'

Oddi ar y cae, mae’n dweud mai helpu ei blant, Jac, sy'n bedair, a Lili, sy'n ddwy, oedd un o’r rhesymau dros ddysgu’r iaith ei hun.

“Mae’n pwysig iawn i teulu ni rŵan hefo plant ni,” meddai. “Mae’n pwysig iawn i teulu Sioned. Dwi eisiau chwarae part fi’n helpu nhw dysgu.

“A hefyd mae just yn peth diddorol i fi wneud. Dwi di tyfu i fyny yn Cymru heb dysgu lot o Cymraeg a rŵan dwi’n teimlo'r pwysau i neud o a just strangely bod yn America, wedi bod y dechrau cymryd o dipyn bach fwy seriously ac mae Sioned wedi helpu ni lot.”

Ychwanegodd Sioned: “Dwi’n meddwl mae’n haws i ni yn America na pan oeddan ni yma, am ryw reswm. 

“Pan oeddan ni’n ym Manceinion cynt, oeddan ni’n meddwl ‘oh wel, fydd Mam a Dad adra, neith nhw ddod i weld y plant,’ a kind of disgwl i bawb arall helpu. 

"Lle yn America, dwi’n meddwl mae 'na fwy o bwysau arna ni’n fana i neud o i weithio, so dyna oedd y rhan fwya’ ohono fo."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.