Cathays: Dod o hyd i dros 230 o blanhigion canabis mewn eiddo

Cannabis Cathays Terrace Caerdydd Hero

Mae Heddlu De Cymru wedi dod o hyd i fwy na 230 o blanhigion canabis ar Deras Cathays yng Nghaerdydd.

Wrth chwilio’r eiddo, arestiwyd Fatjon Cota, 32 yn yr atig. Ymddangosodd o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun, y 5ed o Ionawr gan bledio yn euog i gynhyrchu cyffur rheoledig.

Bu’r Heddlu yn chwilio’r eiddo ar ôl derbyn gwybodaeth fod y lle yn cael ei ddefnyddio fel ffatri canabis.

Image
Cannabis Cathays Terrace Caerdydd 2

Cafodd y planhigion eu dinistrio a gwnaed yr eiddo yn ddiogel gan yr Heddlu.

Mae Fatjon Cota wedi ei gadw yn y ddalfa ar gyfer gwrandawiad pellach fis nesaf.

Mae’r Heddlu yn rhybuddio am beryglon ffatrïoedd canabis gyda nifer yn cael eu cysylltu â throseddu trefnedig a masnachu pobl.

Lluniau gan: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.