Apêl am wybodaeth ar ôl gwrthdrawiad 'difrifol' yn Sir Ddinbych
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl gwrthdrawiad "difrifol" rhwng dau gar yn Sir Ddinbych.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A525 ger Gwesty Oriel rhwng Llanelwy a Threfnant 18:33 nos Sul, meddai'r llu.
Fe wnaeth Audi A6 du a Seat Ateca llwyd daro mewn i'w gilydd.
Roedd yr Audi yn teithio tuag at Drefnant tra bod y Seat yn gyrru i'r cyfeiriad arall.
Dywedodd Sarsiant Leigh McCann o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu'r Gogledd eu bod yn apelio am unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr hyn ddigwyddodd.
"Fe allai eich gwybodaeth fod yn hollbwysig os roeddech chi wedi gweld unrhyw un o'r cerbydau yma yn gyrru cyn neu ar adeg y gwrthdrawiad," meddai.
"Rydw i hefyd yn chwilio am unrhyw un sydd â lluniau CCTV neu dashcam o'r ceir cyn neu adeg y gwrthdrawiad, ac i'r rhai sydd efo nhw i gysylltu gyda'r heddlu cyn gynted â phosib.
"Hyd yn oed os ydych chi'n credu bod y wybodaeth neu'r fideo ddim yn berthnasol iawn, fe allai fod o gymorth."
Ychwanegodd Sarsiant McCann bod yr heddlu eisiau siarad gyda gyrrwr hatchback arian, y maen nhw'n credu y cafodd ei oddiweddyd (overtaken) yn Llanelwy cyn y gwrthdrawiad.
Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu trwy eu gwefan neu ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 0001874.