Starmer yn gwrthwynebu sylwadau Trump am gipio'r Ynys Las
Mae Syr Keir Starmer wedi dweud y byddai yn gwrthwynebu unrhyw ymgais gan Donald Trump i gipio’r Ynys Las (Greenland) oddi ar Deyrnas Denmarc.
Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn “sefyll” gyda Denmarc ar ôl i Arlywydd yr Unol Daleithiau awgrymu ei fod yn llygadu’r ynys.
Daw hyn ar ôl i Donald Trump ddweud y byddai’n “rheoli’r Ynys Las”, gan ailadrodd sylwadau blaenorol am fuddiannau strategol yr Unol Daleithiau yno.
“Mae angen yr Ynys Las arnom, yn bendant,” meddai Mr Trump wrth gylchgrawn The Atlantic.
Dywedodd Keir Starmer bod Prif Weinidog Denmarc, Mette Frederiksen, yn “gywir” i wrthod sylwadau’r Unol Daleithiau fod ganddyn nhw hawl dros yr Ynys Las.
Roedd Mette Frederiksen wedi ymateb i sylwadau Donald Trump gan ddweud “nad oes gan yr Unol Daleithiau hawl i gymryd unrhyw un o’r tair gwlad yn Nheyrnas Denmarc.”
Dywedodd Syr Keir wrth Sky News: “Wel, rwy’n sefyll gyda hi, ac mae hi’n iawn am ddyfodol yr Ynys Las.”
“Mae Denmarc yn gynghreiriad agos yn Ewrop, mae’n gynghreiriad o fewn NATO, ac mae’n bwysig iawn bod dyfodol yr Ynys Las, fel y dywedais i, yn benderfyniad i Deyrnas Denmarc a’r Ynys Las, a dim ond i’r Ynys Las a Theyrnas Denmarc.”
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Llywodraeth Lafur wedi bod yn meithrin cysylltiadau agosach â Denmarc.
Maen nhw wedi bod yn dilyn awgrymiadau llywodraeth Ms Frederiksen – sydd o duedd gwleidyddol debyg – ar sut i fynd i’r afael â mudo anghyfreithlon.