Cymeriadau Emmerdale yn troedio Coronation Street yn deimlad o 'antur gyffrous'

Gareth Pierce

Mae bydoedd dychmygol dwy o operâu sebon mwyaf poblogaidd ITV yn cwrdd â'i gilydd am y tro cyntaf ar y sgrin fach nos Lun.

Fe fydd cymeriadau o'r naill gyfres Coronation Street ac Emmerdale yn ymddangos ochr yn ochr â'i gilydd mewn penodau arbennig i nodi newidiadau i brif amserlen wythnosol ITV.

Yn ôl y sianel, fe fydd cymeriadau o'r naill opera sebon yn dod wyneb yn wyneb ai gilydd am y tro cyntaf, gan "greu penodau unigryw" sydd am gael eu hadnabod fel 'Corriedale'.

Image
Corridale

Ymysg prif gast Coronation Street, mae actor o Gymro sy'n wreiddiol o Borthmadog yng Ngwynedd.

Mae Gareth Pierce wedi bod yn chwarae rhan Todd Grimshaw, un o brif gymeriadau'r sebon ers 2020, ac yn siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore Llun dywedodd Gareth fod y profiad o greu'r penodau arbennig wedi bod "yn deimlad o antur gyffrous."

"Mae 'na deimlad yma ein bod fel un teulu mawr, a braf oedd gweld fod yr un teimlad o berthyn i un 'teulu mawr' hefyd yn bodoli ymysg criw Emmerdale.

"Dwi ddim yn siŵr faint dwi'n cael ddweud, ond mae 'na stunt mawr yn digwydd, dwi'n meddwl fod pobl yn gwybod rŵan fod 'na crash mawr yn digwydd rhwng Sir Efrog a Manceinion ac mae'r ddau fyd yn dod at ei gilydd fel 'na.

"Mae 'na lot o straeon mawr wedi bod yn buildio fyny i'r penodau yma, felly mae 'na gymeriadau sydd mewn perygl yn barod... a dan ni wedi treulio mwy o amser nag sydd ganddo ni ar gyfer penodau normal, felly gobeithio fydd pobl yn gweld hynny."

Image
Corriedale

Mae byd dychmygol Coronation Street [Wetherfield] wedi ei leoli yn un o ardaloedd ôl-ddiwydiannol ar gyrion dinas Manceinion, tra bod pentref dychmygol Emmerdale wedi ei leoli ar wastadeddau Gogledd Sir Efrog.

Dyma benllanw syniad gwreiddiol gan un o uwch-gynhyrchwyr ITV, ac fe ddywedodd Iain MacLeod sydd wedi bod yng ngofal y ddwy opera sebon ers dwy flynedd, fod y syniad wedi dod am gymysgu bydoedd dychmygol y sebon, ar ôl meddwl yn wreiddiol am anfon cymeriad neu ddau ar wyliau i'r naill leoliad dychmygol.

Ond bellach, gyda gwylwyr yn disgwyl golygfeydd dramatig nos Lun, fe ddywedodd Iain MacLeod: "If you're going to do it, why not go huge, which is what we decided to do."

Mae Gareth Pierce yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C, ac wedi ymddangos mewn nifer o ddramâu’r sianel ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys Caerdydd, Pen Talar, Y Gwyll a Cowbois ac Injans.

Ar ddiwedd y cyfweliad fore Llun, fe gafodd Gareth ei holi a oes disgwyl mwy o gyd-weithio tebyg yn y dyfodol, gan ddweud fod "hwn wedi teimlo fel one off, ond o weld ymateb y gynulleidfa hyd yma, pwy a ŵyr."

Nid Coronation Street yw'r unig opera sebon i Gareth ymddangos ynddi, gan iddo gael cyfnodau fel aelod o gast Pobol y Cwm ar S4C, Hollyoaks ar Channel 4 a chyfresi dramâu ar Radio 4.

Fe fydd y penodau arbennig ymlaen ar ITV o 1900 ymlaen nos Lun.

(Lluniau: ITV)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.