Aberystwyth: Arestio dyn ar ôl i gar daro mewn i gerddwr
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio dyn 48 oed ar ôl i fenyw ddioddef anafiadau mewn gwrthdrawiad yn Aberystwyth.
Dywedodd y llu eu bod nhw’n ymchwilio i’r gwrthdrawiad rhwng car Vauxhall Insignia Glas a cherddwr ar Stryd Porth y Gogledd tua 19:05 nos Fawrth.
Cafodd y fenyw ei chludo i'r ysbyty i gael asesiad meddygol.
Ychwanegodd y llu eu bod nhw wedi arestio un dyn, 48 oed, ar amheuaeth o yrru'n beryglus, gyrru dan ddylanwad cyffuriau, a gyrru cerbyd mewn cyflwr peryglus.
Mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gan ddyfynnu cyfeirnod:DP-20251230-281.
Llun: Google