Caernarfon yn herio Bae Colwyn yn y Cymru Premier JD
Mae'n frwydr rhwng y clybiau yn y pedwerydd a'r pumed safle ddydd Sadwrn wrth i Gaernarfon wynebu Bae Colwyn.
31 pwynt yw’r swm arferol sydd ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf, a byddai buddugoliaeth i Gaernarfon brynhawn Sadwrn yn eu codi dros y trothwy hwnnw.
27 o bwyntiau sydd gan Fae Colwyn, ac mae nhw’n anelu i fod y clwb cyntaf i gyrraedd y Chwech Uchaf yn eu tymor cyntaf ar ôl sicrhau dyrchafiad ers i Gaernarfon wneud hynny yn 2018/19.
Gemau tan yr hollt:
Caernarfon: BAE (c), BALA (oc), CEI (c) ͏
Bae Colwyn: CFON (oc), FFL (c), YSN (oc)
Yn ogystal â chystadlu am y Chwech Uchaf, bydd y ddau glwb yma’n cyfarfod mewn gêm anferthol yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru fis nesaf.
Er y llwyddiant yn y cwpan, dyw Caernarfon heb fod ar eu gorau’n y gynghrair gan fethu ag ennill yn eu pedair gêm ddiwethaf a chael gemau cyfartal yn erbyn tri o dimau isaf y tabl (Hwlffordd, Llanelli, Y Fflint).
Enillodd Caernarfon o 3-0 yn erbyn Bae Colwyn yn eu gêm gyntaf y tymor hwn yng Nghwpan Nathaniel MG, ond fe gafodd y Gwylanod ddial ym mis Hydref gan ennill o 1-0 yn y gynghrair diolch i gôl Louis Robles.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ͏✅➖➖❌➖
Bae Colwyn: ͏❌✅❌✅❌