Newyddion S4C

Cyhuddo dau o lofruddio dyn 57 oed yn Wrecsam

North Wales Live 26/08/2021
Heddlu

Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo o lofruddio dyn 57 oed yn ardal Wrecsam.

Daw hyn wedi digwyddiad mewn cyfeiriad yn ardal Cristionydd, Penycae ddydd Llun.

Cafodd dyn ei gludo i'r ysbyty, ond bu farw'n ddiweddarach, yn ôl North Wales Live.

Mae heddlu'r gogledd wedi cadarnhau fod Luke Williams, 24 oed, a David Williams, 52 oed, o Trem y Gardden, Penycae, wedi eu cadw'n y ddalfa.

Mae disgwyl iddyn nhw ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno ddydd Gwener.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.