Oedi ym mhorthladd Dover oherwydd problemau technegol

Llun: Gareth Fuller/PA
Porthladd Dover

Mae oedi am hyd at awr ym mhorthladd Dover wrth i broblemau technegol arwain at broblemau i filoedd o deithwyr.

Fore Sadwrn roedd y gweithlu dros y ffin yn Ffrainc yn wynebu problemau gyda'u technoleg, meddai Porthladd Dover ar X.

Dywedodd y porthladd eu bod yn gweithio i ddatrys y broblem ac yn galw ar deithwyr i beidio cyrraedd mwy na dwy awr cyn eu taith.

Mae Porthladd Dover yn disgwyl i 30,000 o geir deithio o'r DU dros y ffin yn ystod cyfnod y Nadolig, gyda'r cyfnodau prysuraf rhwng 06:00 a 13:00 rhwng dydd Gwener a Sul.

Mae P&O Ferries, sydd yn rhedeg rhai llongau o'r porthladd, yn dweud bod ciwiau hir ar y ffyrdd sydd yn agos i'r porthladd.

Ychwanegodd Porthladd Dover y byddai unrhyw deithwyr sydd yn colli eu llong yn cael eu gosod "ar y daith nesaf sydd ar gael."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.