Dartiau: Gwthwynebydd Jonny Clayton ym Mhencampwriaeth y Byd wedi ei wahardd

Dom Taylor / Jonny Clayton

Ni fydd Jonny Clayton yn gorfod chwarae yn ail rownd Pencampwriaeth Dartiau'r Byd ar ôl i'w wrthwynebydd gael ei wahardd am fethu prawf cyffuriau.

Roedd Clayton i fod i herio Dom Taylor o Loegr yn yr ail rownd ym Mhalas Alexandra nos Sadwrn.

Ond fe wnaeth y PDC, corff llywodraethau'r gamp ryddhau datganiad nos Wener yn dweud bod Taylor wedi ei wahardd rhag cystadlu ar ôl methu prawf cyffuriau.

"Ar 19 Rhagfyr fe gafodd Awdurdod Rheoleiddio Dartiau (DRA) gwybod am ganfyddiad dadansoddol anffafriol yng nghanlyniadau'r chwaraewr Dom Taylor, wedi prawf a gafodd ei gynnal ar 14 Rhagfyr.

"O ganlyniad, ac fel rhan o broses y DRA, mae Dom Taylor wedi ei wahardd rhag cystadlu mewn unrhyw gystadlaethau'r DRA, ac mae hynny'n dod i effaith yn syth.

"Bydd y mater yn cael ei gyfeirio ar broses disgyblu."

Ychwanegodd y DRA bod profion cyffuriau yn rhan o'u "gweithdrefnau gwrth-gyffuriau."

Enillodd Dom Taylor yn y rownd gyntaf yn erbyn Oskar Lukasiak o Sweden, tra bod Clayton wedi curo Adam Limspcombe o Loegr.

O ganlyniad i waharddiad Taylor fe fydd Clayton yn cymhwyso ar gyfer rownd y 32 olaf.


 

 
 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.