'Gwirioneddol warthus': Diswyddo rhingyll heb rybudd am gamymddwyn difrifol
Mae Heddlu Gwent wedi diswyddo rhingyll heb rybudd am gamymddwyn difrifol a oedd meddai llefarydd ar ran y llu yn "wirioneddol warthus".
Bydd y Rhingyll Dean Nocivelli yn gadael ei swydd yn dilyn gwrandawiad Safonau Proffesiynol yng Nghwmbrân.
Roedd wedi torri dau o safonau ymddygiad yr heddlu: safon awdurdod, parch a chwrteisi; a safon ymddygiad annheilwng.
Cafodd y gwyn yn erbyn y Rhingyll Nocivelli ei adrodd i'r adran Safonau Proffesiynol ym mis Hydref 2023.
Yn ystod gwrandawiad pedwar diwrnod, roedd yn rhaid iddo ateb i honiadau am ei ymddygiad tuag at 'Unigolyn A'.
Cafodd yr honiadau, a oedd yn gysylltiedig ag ymosodiad ym mis Mehefin 2010, eu profi yn y gwrandawiad.
'Gwirioneddol warthus'
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl, Nicky Brain, bod ei ymddygiad yn "wirioneddol warthus".
"Mae'r gwrandawiad hwn yn dangos y byddwn yn cymryd y camau gweithredu mwyaf priodol pan fydd pobl yn teimlo eu bod yn barod i adrodd i ni," meddai.
"Mae'n hollol deg ein bod ni, a'r cyhoedd, yn disgwyl gwell gan ein swyddogion heddlu, ac rydyn ni wedi dangos na fyddwn yn derbyn y rheini sy'n tanseilio ymddiriedaeth a hyder pobl yn yr heddlu."